Dafad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: new:फइ
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: hif:Bherra
Llinell 112: Llinell 112:
[[he:כבש הבית]]
[[he:כבש הבית]]
[[hi:भेड़]]
[[hi:भेड़]]
[[hif:Bherra]]
[[hr:Domaća ovca]]
[[hr:Domaća ovca]]
[[ht:Mouton]]
[[ht:Mouton]]

Fersiwn yn ôl 21:21, 5 Mawrth 2013

Dafad
Delwedd:Dafad.jpg
Dafad yn Swydd Efrog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Caprinae
Genws: Ovis
Rhywogaeth: O. aries
Enw deuenwol
Ovis aries
Linnaeus, 1758

Mamal carnol yw dafad. Ceir defaid gwyllt mewn sawl rhan o Ewrasia, ond anifeiliaid dof a fegir am eu gwlân a'u cig yw defaid yn bennaf, a hynny ers canrifoedd lawer. Tan y 19eg roedd mwy o eifr yng Nghymru nag o ddefaid, ond mae'n sicr fod y ddafad wedi chwarae rhan fawr yn economi Cymru gan ddarparu llaeth, cig, crwyn a gwlân. Yr enw a roddir ar ddafad ifanc ydy oen.

Gwryw'r ddafad ydy hwrdd, ac mae paru'n digwydd yn yr hydref. Mae'r cyfnod ŵyna (sef geni ŵyn bach) yn digwydd am gyfnod o fis, ar y fferm, a hynny rhwng Ionawr ac Ebrill. Un oen mae'r ddafad fynydd yn ei gael fel arfer, er bod defaid llawr gwlad yn geni dau neu ragor. Gan fwyaf, mae'r erthygl hon yn sôn am ddefaid yng Nghymru. Ar ddiwedd y gwanwyn rhoddir nodau clust i'r defaid ac mae ŵyn gwryw yn cael eu torri (sbaddu). Yn yr haf caiff y defaid eu cneifio a'u dipio er mwyn lladd parasitiaid.

Ymsefydlodd defaid yng Nghymru yn ystod Oes Newydd y Cerrig (yr Oes Neolithig) pan dechreuwyd glirio'r coedwigoedd i wneud lle i ffermio, gan addasu ar gyfer hinsawdd y wlad. Tyfodd y diwydiant gwehyddu yn sgil hyn. Ers ymuno ag Ewrop yn 1973 mae ffermwyr wedi derbyn grantiau gymharol fawr a bellach mae dros 11 miliwn o ddefaid yng ngwledydd Prydain.

Mathau o ddefaid

Delweddau byd y ddafad

Gweler hefyd

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol


Chwiliwch am dafad
yn Wiciadur.