Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: war:ISBN
Llinell 90: Llinell 90:
[[ur:بین الاقوامی معیاری کتابی عدد]]
[[ur:بین الاقوامی معیاری کتابی عدد]]
[[vi:ISBN]]
[[vi:ISBN]]
[[war:ISBN]]
[[yi:ISBN]]
[[yi:ISBN]]
[[yo:ISO 2108]]
[[yo:ISO 2108]]

Fersiwn yn ôl 18:46, 24 Chwefror 2013

ISBN ar clawr llyfrau Cymraeg

Rhif cofrestru a ddefnyddir yn y fasnach lyfrau yw'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN o'r Saesneg International Standard Book Number). Fe'i defnyddir yn helaeth gan siopau llyfrau a llyfrgelloedd er engraifft. Rhoddir rhif arbennig i bob llyfr a gyhoeddir, ond nid i gyfnodolion (defnyddir ISSN.

Rhoddir un Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol unigol wedi ei gofretri i bob llyfr, a dydy'r rhif ddim yn newid pan adargraffir - heblaw mewn argraffiad newydd â testyn wedi newid yn sylweddol -, ond mae rhif llyfr clawr meddal yn wahanol i un clawr caled. Beth bynnag, does Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol dim ar pob llyfr am fod llawer o wasgau bychain heb cofrestru eu llyfrau.

Hanes

Roedd pobl yn Ewrop yn ystyried cyflwyno rhif cofrestru llyfrau ers y 1960au ac ym 1968 roedd y Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISO) yn dechrau gweithgor i gynllunio rhif felly. Ym 1972 daeth ISO 2108 ar gyfer y Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn rym.

Ar hyn o bryd defnyddir rhif cofrestru wahanol yn Unol Daleithiau, ond bydd hynny'n newid a felly bydd y Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn hirach yn y dyfodol (mae cynllun defnyddio rhif hir newydd ar 1 Ionawr, 2007).

Ystyr y rhif

Mae'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn cynnwys côd ar gyfer gwlad, gwasg a teitl y llyfr yn ogystal a swm prawf (checksum). Fel arfer, mae cysylltnod (-) rhwng pob côd.

  • Y rhif cyntaf yw rhif yr ardal, er enghraifft mae "0" neu "1" yn rhif gwledydd ble siaredir Saesneg (y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau, Awstralia, India), "2" yn rhif gwledydd ble siaredir Ffrangeg a "3" yn rhif gwledydd ble siaredir Almaeneg.
  • Yr ail rhif yw rhif y wasg sydd yn cael ei ddosbarthu gan Asiant ISBN Cenedlaethol neu Leol.
  • Y trydydd rhif yw rhif y teitl. Gall y gwasg dewis y rhif hon. Mae'n rhaid i'r Rhif newid ar gyfer clawr newydd, tomenau sydd ar werth ar wahân ac ati.
  • Y rhif olaf yw'n swm prawf (checksum). Gall fod yn rhif neu yn "X".