Saith Seren, Wrecsam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dyfrig (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Hanes yr adeilad== |
==Hanes yr adeilad== |
||
Adeiladwyd tafarn ''The Seven Stars'' yn 1898 i gynlluniau Thomas Price, Lerpwl. Mae'n ddull masnachol gwahanredol sy'n defnyddio elfennau o bensaernïaeth [[Mudiad Celf a Chrefft|Celf a Chrefft]].<ref>[http://www.wrexham.gov.uk/welsh/planning_portal_w/publications/public_houses/pub_stars.htm Tafarn The Seven Stars, Stryt yr Lampint, Wrecsam] o wefan |
Adeiladwyd tafarn ''The Seven Stars'' yn 1898 i gynlluniau Thomas Price, Lerpwl. Mae'n ddull masnachol gwahanredol sy'n defnyddio elfennau o bensaernïaeth [[Mudiad Celf a Chrefft|Celf a Chrefft]].<ref>[http://www.wrexham.gov.uk/welsh/planning_portal_w/publications/public_houses/pub_stars.htm Tafarn The Seven Stars, Stryt yr Lampint, Wrecsam] o wefan Cyngor Sir Wrecsam</ref> Mae'n adeilad rhestredig Gradd II. |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 14:06, 8 Chwefror 2013
Canolfan Gymraeg a Chymreig aml-bwrpas a menter gydweithredol yn Wrecsam ydy Saith Seren. [1][2] Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn hen adeilad tafarn The Seven Stars yn Stryd Caer yn y dref.[3]
Hanes
Dechreuwyd ymgyrch yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 i godi arian ar gyfer Canolfan Gymraeg i'r dre.[4] Gwerthwyd cyfrandaliadau er mwyn sichrau prydles 21 mlynedd ar yr adeilad ac am waith adnewyddu, ac fe gyrhaeddwyd y nôd erbyn diwedd mis Rhagfyr y flwyddyn honno.
Agorwyd Canolfan Gymraeg Y Saith Seren ar 25 Ionawr 2012 gyda chyfleusterau bar a chegin ar gyfer paratoi bwyd.
Cyfleusterau
Cynhelir sesiynau sgwrs ar gyfer dysgwyr, cyfarfodydd ac adloniant, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn rheolaidd, a chynhelir dosbarthiadau Cymraeg cyn gynted a bydd ystafelloedd dosbarth yn barod.
Hanes yr adeilad
Adeiladwyd tafarn The Seven Stars yn 1898 i gynlluniau Thomas Price, Lerpwl. Mae'n ddull masnachol gwahanredol sy'n defnyddio elfennau o bensaernïaeth Celf a Chrefft.[5] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.
Gweler hefyd
- Clwb Ifor Bach, Caerdydd.
- Canolfan Cymry Llundain
Cyfeiriadau
- ↑ Canolfan Gymreig: Ymateb 'anhygoel'. BBC Cymru (21 Medi 2011).
- ↑ Agor Saith Seren. Y Cymro (28 Ionawr 2012).
- ↑ Wrexham Pub To Become Welsh Cultural Centre. www.wrexham.com (24 Medi 2011).(Saesneg)
- ↑ Siôn Tecwyn (27 Ionawr 2012). Agor canolfan Gymraeg newydd Wrecsam. BBC Cymru.
- ↑ Tafarn The Seven Stars, Stryt yr Lampint, Wrecsam o wefan Cyngor Sir Wrecsam