Arwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: bn:বীর
→‎Gweler hefyd: ychwanegu dolen i Wiciadur using AWB
Llinell 9: Llinell 9:


{{eginyn mytholeg}}
{{eginyn mytholeg}}



{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}


[[Categori:Mytholeg]]
[[Categori:Mytholeg]]

Fersiwn yn ôl 15:05, 1 Chwefror 2013

Syr Galahad, un o arwyr cylch Arthur

Ceir sawl ystyr i'r gair arwr (benywaidd: arwres). Daw'r gair Cymraeg o'r rhagddodiad ar-, sy'n cryfhau'r ystyr, a'r enw gŵr 'rhyfelwr'; 'gwron' neu 'rhyfelwr dewr' yw prif ystyr y gair mewn Cymraeg Canol. Yn nhermau mytholeg, gan darddu o'r defnydd o'r gair hero ym mytholeg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, mae arwr yn gymeriad dwyfol neu led-ddwyfol wedi ei ddonio â nerth neu ddawn anghyffredin; Heracles (Ercwlff) oedd un o'r enwocaf o arwyr y byd Clasurol. Yn fwy cyffredinol, datblygodd y gair i olygu unrhywun sy'n ddewr neu sy'n barod i aberthu ei hun er mwyn eraill. Gall olygu prif gymeriad cerdd neu nofel yn ogystal. Erbyn heddiw mae'r defnydd o'r gair wedi dirywio cymaint fel bod pobl fel pêl-droedwyr sy'n achub gêm yn cael eu disgrifio fel "arwyr".

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato



Chwiliwch am Arwr
yn Wiciadur.