Tylluan gorniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Yn gosod File:Waldohreule_in_freier_Wildbahn.jpg yn lle CRW_2987.jpg (gan MPF achos: File renamed: Descriptive name). |
Chobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.6) (robot yn ychwanegu: ko:칡부엉이 |
||
Llinell 62: | Llinell 62: | ||
[[kbd:Мэзжьынду]] |
[[kbd:Мэзжьынду]] |
||
[[kk:Құлақты жапалақ]] |
[[kk:Құлақты жапалақ]] |
||
[[ko:칡부엉이]] |
|||
[[ku:Kundê şaxkidar]] |
[[ku:Kundê şaxkidar]] |
||
[[lt:Mažasis apuokas]] |
[[lt:Mažasis apuokas]] |
Fersiwn yn ôl 07:24, 14 Rhagfyr 2012
Tylluan Gorniog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Strigiformes |
Teulu: | Strigidae |
Genws: | Asio |
Rhywogaeth: | A. otus |
Enw deuenwol | |
Asio otus (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Dylluan Gorniog (Asio otus) yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o dylluanod. Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia a Gogledd America.
Mae'r Dylluan Gorniog fel rheol yn byw mewn coedwigoedd sy'n agos i dir agored, lle gall hela. Mae'n nythu mewn coeden, gan ddefnyddio hen nythod adar eraill megis brain, ac yn dodwy 4 neu 5 wy. Mamaliaid bychain, yn enwedig llygod, yw'r prif fwyd ond gall fwyta adar hefyd.
Tylluan ganolig o ran maint yw'r aderyn yma, 31-37cm o hyd a 86-98cm ar draws yr adenydd. Fel rheol dim ond yn y nos y mae'n hela, ond weithiau gellir eu gweld yn cysgu mewn coeden yn ystod y dydd. Mae'r plu yn frown ar y cefn ac yn fwy gwelw ar y bol. Mae'n eithaf tebyg i'r Dylluan Glustiog, ond bod y plu hir o gwmpas y clustiau yn hirach yn y Dylluan Gorniog, ac mae ganddi lygaid oren, nid llygaid melyn fel y Dylluan Glustiog. wingspan.
Nid yw'n aderyn cyffredin yng Nghymru, er fod nifer fychan o barau yn nythu. Efallai fod hyn i raddau oherwydd ei bod yn methu cystadlu a'r Dylluan Frech; yn Iwerddon lle na cheir y Dylluan Frech, mae'r Dylluan Gorniog yn llawer mwy niferus.