Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "David Davies (Dai'r Cantwr)"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 14 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
manion
(manion)
Bu'r [[baledwr]] '''Dai'r Cantwr''' (c. 1812 - 1874) (neu '''David Davies''' i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn [[Helyntion Beca]]; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.<ref>'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; [[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1961.</ref> Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch.
 
Ganwyd ef yn Nhregof (neu Dreguff ar lafar), [[Llancarfan]],<ref>[http://wbo.llgc.org.uk/cy/c1-DAVI-DAV-1812.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein, Y Llyfrgell Gendlaethol.]</ref> a bu'n chwarelwr am rai blynyddoedd ac yn was fferm ac yn weithiwr diwydiannol yn [[Tredegar|Nhredegar]] cyn ymsefydlu ym [[Pontyberem|Mhontyberem]]. Bu hefyd yn pregethu ac mae'n bosibl mai ef a enillodd y Delyn yn Eisteddfod y Fenni ym 1838.
 
Tra'n ceisio dychryn Rheolwr gwaith glo Pontyberem, gweiddodd, ''Ni chaiff Sais fod yn rheolwr yng Nghymru, mwyach!'' Fe'i daliwyd yn nhafarn y Plough and Harrow ym [[Pum Heol|Mhump-hewl]] a'i gyfaill [[Sioni Sgubor Fawr]] yn y [[Tymbl]]. Yn y brawdlys yng Nghaerfyrddin ar 22 Rhagfyr dedfrydwyd Sioni i alltudiaeth am oes, a Dai'r Cantwr i ugain mlynedd o alltudiaeth.
 
Pan gyrhaeddodd Wlad Van Diemen's Land, (neu [[Tasmania]] heddiw), roedd yn 31 oed a hynny yng gorffennaf 1844.
 
 
==Y baledwr==
::Chwanegwyd er fy ngofid.
:Alltud wyf ar ddechrau nhaith...
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn hanes Cymru}}
{{DEFAULTSORT:Davies, David}}
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:19eg ganrif yng Nghymru]]
[[Categori:Baledwyr Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau 1812]]
[[Categori:HanesMarwolaethau Cymru1874]]
 
[[en:David Davies (Dai'r Cantwr)]]
70,277

golygiad

Llywio