Tozeur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: zh:托泽尔 |
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: uk:Таузар |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
[[sl:Tozeur]] |
[[sl:Tozeur]] |
||
[[tr:Tuzer]] |
[[tr:Tuzer]] |
||
[[uk:Таузар]] |
|||
[[zh:托泽尔]] |
[[zh:托泽尔]] |
Fersiwn yn ôl 11:38, 10 Mehefin 2012
Mae Tozeur (Arabeg: توزر) yn ddinas a gwerddon yng ngorllewin canolbarth Tunisia. Lleolir y ddinas i'r gorllewin o Chott el-Djerid, rhwng y chott hwnnw a Chott el-Gharsa. Mae'n brifddinas Talaith Tozeur.
Gyda rhai cannoedd o filoedd o balmwydd, mae Tozeur yn werddon fawr a ffrwythlon gyda'r ddinas ei hun yn ei chanol. Allforio'r dêts sy'n tyfu ar y palmwydd sy'n cyfrif am enwogrwydd Tozeur. Yn y gorffennol bu Tozeur yn ganolfan bwysig ar y llwybrau masnach dros y Sahara, gan gysylltu gorllewin Affrica ag arfordir Môr y Canoldir; arferid teithio mewn carafanau mawr dros yr anialwch. Hen enw'r ddinas oedd Tusuros, a bu trefedigaeth Rufeinig yma yn y gorffennol.
Ym medina (hen ddinas) Tozeur, ceir nifer o enghreifftiau o bensaernïaeth draddodiadol a siopau crefftwyr. Mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi ond mae'n waith tymhorol ac fel arfer nid yw twristiaid yn aros yno ond yn hytrach yn ymweld am y diwrnod o ganolfannau gwyliau fel Djerba ar yr arfordir. Mewn canlyniad i hyn a ffactorau economaidd eraill, mae diweithdra yn broblem fawr yn Tozeur.