Y Deyrnas Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: en:New Kingdom of Egypt |
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: mk:Ново египетско кралство |
||
Llinell 194: | Llinell 194: | ||
[[ko:이집트 신왕국]] |
[[ko:이집트 신왕국]] |
||
[[lt:Naujoji Egipto karalystė]] |
[[lt:Naujoji Egipto karalystė]] |
||
[[mk:Ново египетско кралство]] |
|||
[[nl:Nieuwe Rijk]] |
[[nl:Nieuwe Rijk]] |
||
[[no:Det nye rike i Egypt]] |
[[no:Det nye rike i Egypt]] |
Fersiwn yn ôl 04:45, 18 Mai 2012
Y Deyrnas Newydd yw'r enw a roddir i'r cyfnod rhwng tua 1570 CC a 1070 CC yn hanes yr Hen Aifft.
Syniad a ddatblygwyd gan eifftolegwyr yn y 19eg ganrif oedd rhannu hanes yr Hen Aifft yn nifer o deyrnasoedd; nid oedd yr hen Eifftwyr ei hunain yn meddwl am eu hanes fel hyn. Ystyrir bod y Deyrnas Newydd yn cynnwys brenhinoedd y 18fed Brenhinllin hyd yr 20fed Brenhinllin.
Cyrhaeddodd grym yr Hen Aifft ei uchafbwynt yn ystod yr Hen Deyrnas, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Thutmose III, a arweiniodd ymgyrchoedd milwrol tu hwnr i afon Ewffrates. Gwelodd y cyfnod yma hefyd chwyldro crefyddol Akhenaten, a theyrnasiad byr Tutankhamun, a ddaeth yn enwog pan gafwyd hyd i'w fedd yn nechrau'r 20fed ganrif. Un arall o frenhinoedd adnabyddus y Deyrnas Newudd oedd Ramesses II (1279-1213 CC).
Daeth y Deyrnas Newydd i ben pan gollodd brenin olaf yr 20fed Brenhinllin, Ramesses XI, ei afael ar yr orsedd. Daeth Archoffeiriaid Amun yn Thebes y rheolwyr rhan ogleddol yr Aifft, tra daeth Smendes yn rheolwr y de, gan sefydlu'r 21ain Brenhinllin yn Tanis.
18fed Brenhinllin 1550 CC - 1295 CC
Enw | Nodiadau | Dyddiadau |
---|---|---|
Ahmose I, Ahmosis I | Olynydd Kamose. | 1550-1525 |
Amenhotep I | - | 1525-1504 |
Thutmose I | - | 1504-1492 |
Thutmose II | - | 1492-1479 |
Thutmose III | Gelwir weithiau yn "Napoleon yr Aifft". Yn gynnar yn ei deyrnasiad cipiwyd grym gan ei fam-wen Hatshepsut; ond wedi ei marwolaeth hi ymestynnodd ymerodraeth yr Aifft I’w maint eithaf.. | 1479-1425 |
Hatshepsut | Yr ail ferch I deyrnasu yn ol pob tebyg.. | 1473-1458 |
Amenhotep II | - | 1425-1400 |
Thutmose IV | - | 1400-1388 |
Amenhotep III | - | 1388-1352 |
Amenhotep IV/Akhenaten | Newidiodd ei enw I Akhenaten pan gyflwynodd grefydd newydd, Ateniaeth. | 1352-1334 |
Smenkhkare | Efallai’n gyd-frenin gyda Akhenaten. | 1334-1333 |
Tutankhamun | Dychwelwyd I’r hen grefydd dan ei deyrnasiad ef.. | 1333-1324 |
Kheperkheprure Ay | - | 1324-1320 |
Horemheb | Gynt yn gadfridog a chynghorydd I Tutankhamun.. | 1320-1292 |
19eg Brenhinllin 1295 CC. - 1186 CC.
Enw | Nodiadau | Dyddiadau |
---|---|---|
Ramesses I | - | 1292-1290 |
Seti I | - | 1290-1279 |
Ramesses II | Gelwir weithiau yn “Ramesses Fawr”.. | 1279-1213 |
Merneptah | Mae Stele yn disgrifio ei ymgyrchoedd yn cynnwys y cyfeiriad cynharaf at Israel. | 1213-1203 |
Amenemses | - | 1203-1200 |
Seti II | - | 1200-1194 |
Merneptah Siptah | - | 1194-1188 |
Tausret | Merch. | 1188-1186 |
20fed Brenhinllin 1185 CC. - 1070 CC
Enw | Nodiadau | Dyddiadau |
---|---|---|
Setnakhte | - | 1186-1183 |
Ramesses III | Ymladdodd yn erbyn Pobloedd y Mor yn 1175 CC. | 1183-1152 |
Ramesses IV | - | 1152-1146 |
Ramesses V | - | 1146-1142 |
Ramesses VI | - | 1142-1134 |
Ramesses VII | - | 1134-1126 |
Ramesses VIII | - | 1126-1124 |
Ramesses IX | - | 1124-1106 |
Ramesses X | - | 1106-1102 |
Ramesses XI | - diorseddwyd gan Herihor, Archoffeiriad Amun | 1102-1069 |