Abu Simbel
Gwedd
| Math | safle archaeolegol, temple complex, ensemble pensaernïol |
|---|---|
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Nubian Monuments from Abu Simbel to Philae |
| Lleoliad | Abu Simbel |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 41.7 ha |
| Cyfesurynnau | 22.3369°N 31.6256°E |
![]() | |
| Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Dwy deml yn ne yr Aifft a adeiladwyd gan y brenin Ramesses II (1302 CC - 1213 CC) yw Abu Simbel. Adeiladwyd y temlau i anrhydeddu Ramesses ei hun a'i frenhines Nefertari.
Dechreuwyd adeiladu Argae Uchel Aswan yn 1960, a dechreuodd Llyn Nasser ffurfio tu ôl i'r argae yn 1964, tra bod yr argae'n dal i gael ei godi. Byddai hyn wedi boddi nifer o henebion o bwysigrwydd eithriadol, yn arbennig Abu Simbel. Bu cydweithrediad rhwng nifer o wledydd wedi ei drefnu gan UNESCO i symud nifer o demlau a henebion eraill rhag iddynt gael eu boddi. Rhwng 1964 a 1968 symudwyd y deml i safle 65 medr yn uwch a 200 medr ymhellach o'r afon.
