Llyn Nasser
Gwedd
| Math | cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Aswan Governorate |
| Gwlad | Yr Aifft, Swdan |
| Arwynebedd | 5,250 km² |
| Uwch y môr | 179 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 22.5°N 31.86°E |
| Hyd | 500 cilometr |
![]() | |

Cronfa ddŵr enfawr yn ne yr Aifft a gogledd Swdan yw Llyn Nasser (Arabeg: بحيرة ناصر; Buhayrat Nasir). Gelwir y rhan gymharol fechan sydd yn y Swdan yn Llyn Nubia (Arabeg: بحيرة نوبية; Buhayrat Nubiya). Mae Llyn Nasser yn 550 km o hyd a 35 km o led yn y man lletaf, gydag arwynebedd o 5,250 km².
Dechreuodd y llyn ffurfio yn 1964 wedi adeiladu Argae Aswan ar draws Afon Nîl. Bu cydweithrediad rhwng nifer o wledydd wedi ei drefnu gan UNESCO i symud nifer o demlau a henebion eraill rhag iddynt gael eu boddi. Teml Abu Simbel yw'r enwocaf o'r rhain. Enwyd y llyn ar ôl Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft ar y pryd.

