Argae Aswan

Oddi ar Wicipedia
Argae Aswan
Mathgravity dam, embankment dam, gorsaf bŵer hydro-electrig, argae Edit this on Wikidata
LL-Q13955 (ara)-Zinou2go-السد العالي.wav Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1960 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAswan Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Aifft Yr Aifft
Arwynebedd5,250 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr171 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Nîl Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23.97143°N 32.88019°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganGeneral Authority for the High Dam and Aswan Reservoir Edit this on Wikidata
Map
Argae Uchel Aswan

Rhoddir yn enw Argae Aswan i ddau argae ar draws Afon Nîl gerllaw dinas Aswan yn yr Aifft. Yr argae hynaf yma yw Argae Isel Aswan; yr un diweddaraf ac enwocaf yw Argae Uchel Aswan (Arabeg: السد العالي).

Adeiladwyd y ddau argae i osgoi llifogydd ar yr afon, i gynhyrchu trydan ac i gael dŵr ar gyfer amaethyddiaeth. Adeiladwyd yr argae cyntaf rhwng 1899 a 1902, pan oedd yr Aifft yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd yn 1,900 metr o hyd a 54 m o uchder, ond profiodd hyn yn annigonol ac ychwanegwyd at ei uchder rhwng 1907 a 1912 ac wedyn rhwng 1929 a 1933.

Dechreuwyd cynllunio Argae Uchel Aswan yn 1952. Tua'r un adeg daeth Nasser i rym. Roedd yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig wedi addo $270 miliwn o gymorth at y costau, ond ataliwyd hyn yn 1956 oherwydd eu gwrthwynebiad i wleidyddiaeth Nasser. Yn 1958 cytunodd yr Undeb Sofietaidd i dalu am y cynllun yn eu lle. Dechreuwyd adeiladu'r argae yn 1960, a chafodd ei orffen ar 21 Gorffennaf, 1970. Dechreuodd Llyn Nasser ffurfio tu ôl i'r argae yn 1964, tra bod yr argae'n dal i gael ei godi. Bu cydweithrediad rhwng nifer o wledydd wedi ei drefnu gan UNESCO i symud nifer o demlau a henebion eraill rhag iddynt gael eu boddi. Teml Abu Simbel yw'r enwocaf o'r rhain.

Mae'r argae yn 3,830 m o hyd a 111 m o uchder; ac yn cynnwys 43 miliwn m³ o ddeunydd. Gall hyd at 11,000 m³ o ddŵr yr eiliad lifo trosto. Mae Llyn Nasser yn 550 km o hyd a 35 km o led yn y man lletaf, gydag arwynebedd o 5,250 km².