Shane Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Enillodd yr anrhydedd o fod yn [[Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru]] yn 2008. Daeth ei gais yn erbyn yr Alban yn gêm gyntaf [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009]] a'i gyfanswm i 45 cais. |
Enillodd yr anrhydedd o fod yn [[Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru]] yn 2008. Daeth ei gais yn erbyn yr Alban yn gêm gyntaf [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009]] a'i gyfanswm i 45 cais. |
||
Cyhoeddodd Shane y byddai'n ymddeol ar ddiwedd cystadleuaeth [[Cwpan y Byd 2011]]. Sgoriodd dri [[cais]] yn y gystadleuaeth gan symyd y cyfanswm o nifer o geisiau a sgoriodd dros Gymru i 57. |
Cyhoeddodd Shane y byddai'n ymddeol ar ddiwedd cystadleuaeth [[Cwpan y Byd 2011]]. Sgoriodd dri [[cais]] yn y gystadleuaeth gan symyd y cyfanswm o nifer o geisiau a sgoriodd dros Gymru i 57. Dywedodd ei gyd-chwaraewr [[Jamie Roberts]] ei fod yn tybio mai Shane Williams oedd chwaraewr mwyaf cyffrous ei genhedlaeth.<ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/55923-shane-williams-arwr-chwedlonol Erthygl Golwg360 - Shane Williams: arwr chwedlonol]</ref> |
||
Mae Shane yn siarad [[Cymraeg]] yn rhugl ac mae wedi ymddangos mewn sawl rhaglen ar [[S4C]], gan gynnwys [[Clwb Rygbi Shane]]. |
Mae Shane yn siarad [[Cymraeg]] yn rhugl ac mae wedi ymddangos mewn sawl rhaglen ar [[S4C]], gan gynnwys [[Clwb Rygbi Shane]]. |
||
==Cyfeirnodau== |
|||
{{cyfeiriadau}} |
|||
{{dechrau-bocs}} |
{{dechrau-bocs}} |
Fersiwn yn ôl 11:19, 22 Hydref 2011
Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm y Gweilch a Chymru yw Shane Mark Williams (ganed 26 Chwefror 1977). Mae'n chwarae fel asgellwr fel rheol, ond gall chwarae fel mewnwr neu fel maswr.
Ganed ef yn Abertawe, a bu'n chwarae rygbi i dîm Castell Nedd cyn ymuno a'r Gweilch. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm yn erbyn yr Eidal yn 2000, pan sgoriodd gais.
Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, roedd yn rhan o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn, gan sgorio cais yr un yn erbyn yr Eidal, yr Alban a Lloegr. Dewiswyd ef i fynd i Seland Newydd gyda'r Llewod yr un flwyddyn. Sgoriodd bum cais mewn gêm yn erbyn Manawatu.
Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, sgoriodd ddau gais yr un yn erbyn yr Alban a'r Eidal a chais yn erbyn Iwerddon; y cais yn erbyn Iwerddon oedd y 40fed iddo ei sgorio i Gymru, yn ei roi yn gydradd a Gareth Thomas fel y sgoriwr uchaf i Gymru. Yng ngêm olaf y bencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc, sgoriodd gais arall i dorri'r record. Ar ddiwedd y gystadleuaeth, enwyd ef yn chwaraewr y bencampwriaeth.
Enillodd yr anrhydedd o fod yn Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 2008. Daeth ei gais yn erbyn yr Alban yn gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 a'i gyfanswm i 45 cais.
Cyhoeddodd Shane y byddai'n ymddeol ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan y Byd 2011. Sgoriodd dri cais yn y gystadleuaeth gan symyd y cyfanswm o nifer o geisiau a sgoriodd dros Gymru i 57. Dywedodd ei gyd-chwaraewr Jamie Roberts ei fod yn tybio mai Shane Williams oedd chwaraewr mwyaf cyffrous ei genhedlaeth.[1]
Mae Shane yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae wedi ymddangos mewn sawl rhaglen ar S4C, gan gynnwys Clwb Rygbi Shane.
Cyfeirnodau
Rhagflaenydd: Joe Calzaghe |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2008 |
Olynydd: Ryan Giggs |