Oued Ed-Dahab-Lagouira: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8 |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
==Dolenni allanol== |
==Dolenni allanol== |
||
* {{eicon fr}} [http://www.rodl.ma/ Gwefan swyddogol Oued Ed-Dahab-Lagouira] |
* {{eicon fr}} [http://www.rodl.ma/ Gwefan swyddogol Oued Ed-Dahab-Lagouira] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20090202094445/http://rodl.ma/ |date=2009-02-02 }} |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:05, 20 Chwefror 2021
Math | former region of Morocco |
---|---|
Prifddinas | Dakhla |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Moroco |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 326 metr |
Cyfesurynnau | 23°N 15°W |
MA-16 | |
Un o 16 rhanbarth Moroco yw Oued Ed-Dahab-Lagouira (Arabeg: وادي الذهب لكويرة), yng Ngorllewin Sahara. Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 142,865 km² a phoblogaeth o 99,367 (cyfrifiad 2004). Dakhla (hen enw Sbaeneg: Villa Cisneros) yw'r brifddinas, ar lan Cefnfor Iwerydd.
Fe'i lleolir yn nhiriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara, sy'n cael ei ystyried gan lywodraeth Moroco yn rhan o diriogaethau deheuol y wlad honno. Ond mae'r Polisario a mudiadau Sahrawi eraill yn ystyried y rhanbarth yn rhan o Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi. Nid yw'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl Moroco ar sofraniaeth yr ardal na chwaith y weriniaeth Sahrawi.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys un préfecture ac un dalaith:
- Préfecture Aousserd
- Talaith Oued Ed-Dahab
Mae'n ardal sych, lled-anial, ar ymyl gorllewinol y Sahara. Mae mwyafrif y boblogaeth yn byw ar yr arfordir ac yn cynnwys nifer o Forocwyr sydd wedi cael eu hannog i ymfudo i'r diriogaeth gan y llywodraeth; er mwyn eu denu, mae trethi yn is o lawer yma nac yng ngweddill Moroco.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Oued Ed-Dahab-Lagouira Archifwyd 2009-02-02 yn y Peiriant Wayback.