Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diweddariad
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: gl:Wikipedia:Guía (citando as fontes) (missing)
Llinell 47: Llinell 47:
[[es:Wikipedia:Tutorial (Enlaces externos)]]
[[es:Wikipedia:Tutorial (Enlaces externos)]]
[[fa:ویکی‌پدیا:خودآموز (پیوندهای وبگاه‌های مربوطه)]]
[[fa:ویکی‌پدیا:خودآموز (پیوندهای وبگاه‌های مربوطه)]]
[[gl:Wikipedia:Guía (citando as fontes)]]
[[pt:Wikipedia:Tutorial/Objectos relacionados]]
[[pt:Wikipedia:Tutorial/Objectos relacionados]]
[[sk:Wikipédia:Príručka/Odkazy na podobné stránky]]
[[sk:Wikipédia:Príručka/Odkazy na podobné stránky]]

Fersiwn yn ôl 14:47, 24 Medi 2011

Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    

Fel yr esbonnir yn Ynglŷn â Wicipedia, "os ydych yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch eich bod yn cynnwys eich ffynonellau, oherwydd gellir cael gwared â ffeithiau heb ffynonellau." Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio dyfyniad mewnol er mwyn i olygwyr a darllenwyr eraill fedru gwirio'r wybodaeth rydych yn ychwanegu. Yn ogystal â hyn, sicrhewch fod y ffynonellau a ddefnyddiwch yn ddibynadwy ac yn rhai y gellir ymddiried ynddynt.

Troednodiadau

Y ffordd hawsaf o greu dyfyniad mewnol yw trwy ddefnyddio troednodiadau. Gallwch greu troednodiadau gydag iaith farcio Wici (o dan y blwch golygu ar eich GUI Wici) drwy ychwanegu tagiau cyfeirio

  • <ref>EICH FFYNHONNELL</ref> ref tags o amgylch eich ffynhonnell, ac os nad yw yno eisoes,
  • {{Reflist}} neu <cyfeiriadau/> o dan y pennawd ==Cyfeiriadau== yn agos i waelod y dudalen.

Os mai gwefan yw'ch ffynhonnell, dylech greu dolen allanol i gyfeiriad y wefan. Peidiwch â defnyddio erthyglau eraill o Wicipedia fel ffynonellau.

Er mwyn creu dolen allanol i'ch ffynhonnell, rhowch gyfeiriad y wefan (yr URL) mewn cromfachau sgwâr cyn y testun a fyddwch yn ychwanegu, megis

  • <ref>[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]</ref>

Mae'n syniad da, er nad yn angenrheidiol, i ddarparu disgrifiad byr ar ôl cyfeiriad y ddolen allanol. Bydd y disgrifiad hwn yn ymddangos yn y rhestr o gyfeiriadau fel teitl y ddolen allanol, yn hytrach na chyfeiriad URL y wefan.

Er mwyn dyfynnu o wefan heb roi esboniad, gallwch roi'r URL a'i gynnwys mewn tagiau cyfeirio, er enghraifft

  • <ref>http://www.google.com</ref>

Ar gyfer nodiadau sy'n eich galluogi i fformatio cyfeiriadau, megis dolenni at erthyglau newyddion, gweler Wicipedia:Nodiadau dyfynnu.

Yr adran ddolenni allanol

Mae gan nifer o erthyglau Wicipedia adran ar wahân o'r enw Dolenni allanol. Mae'r adran hon ar gyfer cysylltu â gwefannau sydd â gwybodaeth ychwanegol, sylweddol a dibynadwy am bwnc yr erthygl. Nid yw pob dolen allanol yn addas i'w defnyddio mewn erthygl Wicipedia, gweler Wicipedia:Dolenni allanol am arweiniad. Cyn ychwanegu gwefan i adran Dolenni allanol, fe'ch anogir i drafod hyn ar dudalen Drafod (sgwrs) yr erthygl honno.

Os ydych yn teipio'r URL llawn ar gyfer y dudalen yr hoffech gysylltu â hi:

http://www.google.com

Bydd y wici yn ystyried y testun hwn fel dolen yn awtomatig (fel y mae wedi gwneud gyda'r URL uchod) a bydd yn arddangos cyfeiriad y wefan fel y mae, gan gynnwys y rhan "http://". Fe'ch argymhellir i beidio defnyddio'r fformat hwn yn ormodol, am fod URLs ar eu pennau eu hunain yn hyll ac yn aml nid ydynt yn awgrymu dim ynglŷn â beth mae'r wefan yn sôn amdano.

Trwy gynnwys bwlch ar ôl URL ac o fewn set unigol o gromfachau, gallwch benderfynu ar y testun a fyddyn weledol, er enghraifft:

[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]

Dim ond y testun sy'n dilyn y bwlch sydd yn weledol, ond bydd yn cadw'r ddolen a welir fan hyn o hyd:

Peiriant chwilio Google


Profwch yr hyn rydych wedi dysgu yn y Pwll tywod

Parhau â'r tiwtorial gyda Tudalennau sgwrs