Wicipedia:Tiwtorial (Tudalennau sgwrs)

Oddi ar Wicipedia
Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    

Mae tudalennau Sgwrs yn rhan allweddol o Wicipedia, am eu bod yn rhoi cyfle i drafod erthyglau a materion eraill gyda Wicipedwyr. Ni ddylid eu defnyddio fel 'stafell sgwrsio, blwch sebon, man i ddadlau neu drafodaeth gyffredinol arall am bwnc yr erthygl.

Os oes gennych gwestiwn, bryder neu sylw sy'n ymwneud â gwella erthygl, rhowch sylwad ar dudalen sgwrs yr erthygl yn hytrach nag yn yr erthygl ei hun. I wneud hyn, cliciwch ar y tab "Sgwrs" ar frig y dudalen. Peidiwch â phoeni os ymddengys y ddolen yn goch; mae'n gwbl dderbyniol i greu tudalen sgwrs os nad yw'n bodoli eisoes.

Wrth bostio sylwad newydd, rhowch e ar waelod y dudalen sgwrs. Yr eithriad yw, os ydych yn ymateb i sylwadau rhywun arall, rhowch eich sylwad o dan eu sylwad hwy. Gallwch fewnosod eich sylwad drwy deipio colon (:) ar ddechrau llinell.

Dylech arwyddo'ch sylwadau drwy deipio ~~~ ar gyfer eich enw defnyddiwr yn unig, neu ~~~~ ar gyfer eich enw defnyddiwr a llofnod amser (gweler y drafodaeth engreifftiol isod). Trwy wneud hyn, pan fyddwch yn cadw'r dudalen, bydd eich llofnod yn cael ei fewnosod yn awtomatig. Heb wneud hyn, bydd eich sylwadau a.y.y.b. dal yn ymddangos ond byddant yn ddienw. Mae'r mwyafrif ohonom yn defnyddio llofnod amser hefyd am eu bod yn gwneud dilyn trafodaeth yn llawer haws i'w dilyn. Er mwyn hwyluso pethau i chi, ceir botwm ar dop y blwch golygu gydag eicon llofnod sy'n mewnosod "--~~~~" pan gaiff ei glicio.

Gallwch greu enw defnyddiwr drwy greu cyfrif (ac mae hyn yn rhad ac am ddim). Os nad oes gennych gyfrif, neu os oes gennych un a'ch bod heb fewngofnodi, bydd cyfeiriad IP allanol eich cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio yn lle.

Tudalen sgwrs defnyddwyr

Mae gan bob cyfrannwr dudalen sgwrs lle gall defnyddwyr eraill adael negeseuon. Mae hyn yn cynnwys cyfranwyr sydd heb greu cyfrif. Os oes rhywun wedi gadael neges i chi, byddwch yn gweld neges yn dweud "Mae gennych negeseuon newydd", gyda dolen i'ch tudalen sgwrs chi.

Gallwch ymateb mewn un o ddwy ffordd. Un ffordd yw drwy adael neges ar dudalen sgwrs y person rydych yn ymateb iddynt. Y ffordd arall yw drwy ymateb ar eich tudalen sgwrs eich hun o dan y neges wreiddiol. Mae'r ddwy ffordd yn gyffredin ar Wicipedia; fodd bynnag, cofiwch fod ymateb ar eich tudalen sgwrs eich hun yn golygu ei fod yn bosib na fydd y neges yn cael ei gweld, os nad yw'r defnyddiwr arall yn edrych ar eich tudalen sgwrs unwaith eto. Os ydych yn dewis y ffordd hon, mae'n syniad da postio neges ar frig eich tudalen sgwrs er mwyn hysbysu pobl eraill i gadw golwg arno.

Mewnosod

Gall mewnosod wella diwyg tudalen sgwrs yn fawr iawn, gan wneud trafodaethau yn llawer haws i'w darllen. Mae'n arfer dda i fewnosod eich ymateb ar un lefel yn ddyfnach na'r person rydych yn ymateb iddynt.

Ceir sawl ffordd o fewnosod ar Wicipedia:

Mewnosodiadau plaen

Y ffordd symlaf i fewnosod yw drwy roi colon (:) ar ddechrau llinell newydd. Po fwyaf o golons a rowch, pellach oll fydd y testun yn cael ei fewnosod. Mae llinell newydd (drwy wasgu Enter neu Return) yn dynodi diwedd paragraff wedi'i mewnosod.

Er enghraifft: Dengys

Mae hwn wedi ei fewnosod yr holl ffordd i'r ochr chwith.
: Mae hwn wedi ei fewnosod ychydig.
:: Mae hwn wedi ei fewnosod mwy.

fel:

Mae hwn wedi ei fewnosod yr holl ffordd i'r ochr chwith.
Mae hwn wedi ei fewnosod ychydig.
Mae hwn wedi ei fewnosod mwy.

Pwyntiau bwled

Gallwch fewnosod gan ddefnyddio pwyntiau bwled, a defnyddir hyn gan amlaf ar gyfer rhestrau. Er mwyn mewnosod pwynt bwled, defnyddiwch asterisg (*). Yn yr un modd a'r mewnosodiadau, po fwyaf o asterisgau a ddefnyddir o flaen paragraff, mwyaf oll fydd y mewnosodiad.

Dyma enghraifft gryno:

* Yr eitem gyntaf ar restr
* Yr ail eitem ar restr
** Is-restr o dan yr ail
* Y drydedd eitem ar restr

Cânt eu dangos fel hyn:

  • Yr eitem gyntaf ar restr
  • Yr ail eitem ar restr
    • Is-restr o dan yr ail
  • Y drydedd eitem ar restr

Eitemau wedi'i rhifo

Gallwch greu rhestrau wedi'u rhifo hefyd. Er mwyn gwneud hyn, defnyddiwch y symbol am rif sef (#). Gan amlaf, defnyddir hwn ar gyfer arolygon a phleidleisiau. Unwaith eto, gallwch ddylanwadu ar y mewnosodiad yn ôl y nifer o # a ddefnyddiwch.

Enghraifft:

# Yr eitem gyntaf
# Yr ail eitem
## Is-eitem o dan yr ail eitem
# Y drydedd eitem

Cânt eu dangos fel hyn:

  1. Yr eitem gyntaf
  2. Yr ail eitem
    1. Is-eitem o dan yr ail eitem
  3. Y drydedd eitem

Trafodaeth enghreifftiol

Dyma enghraifft o drafodaeth sydd wedi cael ei fformatio llawer:

Hi. Mae gen i gwestiwn am yr erthygl hon. Dw i'n eithaf sicr mai dim ond yn Sir Benfro y mae eleffantod pinc yn byw! JayRandumWikiUser 02:49, 10 Rhag 2009 (UTC)

Wel, y tro diwethaf roeddwn i yn Sir Benfro, roedd yr eliffantod a welais i yn goch. — try2BEEhelpful 17:28, 11 Rhag 2009 (UTC)
Dw i'n meddwl y dylech chi chwilio am ffynonellau ar gyfer eich honiadau. Living × Skepticism 20:53, 11 Rhag 2009 (UTC)
O'r gorau, mae'r cylchgronau eliffantaidd hyn yn cytuno â mi:
  • Elephants Monthly
  • Elephants World
try2BEEhelpful 19:09, 12 Rhag 2009 (UTC)
Dw i'n byw yng Nghaernarfon, lle mae eliffantod yn edrych fel cangarws! Mae'r bobl isod yn cytuno efo'm datganiad: -DontGdayMateMe 17:28, 14 Rhag 2009 (UTC)
  1. ElefantLuvr 01:22, 15 Rhag 2009 (UTC)
  2. AisleVoteOnAnything 05:41, 15 Rhag 2009 (UTC)
  3. alittlebehindthetimes 18:39, 27 Rhag 2009 (UTC)

Sylwer os ydych eisiau ychwanegu rhestr i'ch sylwadau, ychwanegwch golon cyn pob eitem, er enghraifft:

::: O'r gorau, mae'r cylchgronau eliffantaidd hyn yn cytuno â mi:
::: * ''Elephants Monthly''
::: * ''Elephants World''
::: ~~~~

Hefyd, er mwyn arwyddo'ch neges ar ôl i chi orffen:

  • Ysgrifennwch ~~~ ar gyfer yr enw (try2BEEhelpful), neu
  • Ysgrifennwch ~~~~ am yr enw a'r dyddiad (try2BEEhelpful 19:09, 12 Rhag 2009 (UTC)), neu
  • Ysgrifennwch ~~~~~ am y dyddiad yn unig (19:09, 12 Rhag 2003 (UTC)).

Gan amlaf, dylech arwyddoch neges gyda'ch enw a'r dyddiad, ond yn aml bydd pleidleisiau'n cael eu llofnodi gydag enwau'n unig.

Arbrofi

Arbrofwch! Y tro hwn, yn hytrach na golygu pwll tywod, gadewch neges ar dudalen sgwrs drwy glicio ar "sgwrs". Cofiwch arwyddo'ch enw defnyddiwr. Efallai yr hoffech geisio ymateb i bost rhywun arall. Cofiwch, dylech ddefnyddio "Dangos rhagolwg" i weld os yw'ch fformatio'n gweithio cyn i chi gadw'r dudalen.

Triwch drafodaeth brawf ar Dudalennau sgwrs y dudalen hon.

Tudalennau prosiect eraill

Yn ogystal â thudalennau Sgwrs, ceir rhai categorïau o dudalennau cudd sy'n cynorthwyo Wicipedwyr i gyfathrebu â'i gilydd, a chanddynt amrywiaeth o rôlau eraill wrth adeiladu Wicipedia. Yn aml, cyfeirir at y meysydd gwahanol hyn fel namespaces — fel gyda'r "namespace Sgwrs".

Mae tudalennau yn y "namespace" Wicipedia (sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel "Namespace Prosiect") yn darparu gwybodaeth am Wicipedia a sut i'w ddefnyddio.

Arddangosir cynnwys sydd wedi ei ysgrifennu ar dudalen Nodyn mewn erthyglau sy'n cynnwys y cyfeirnod nodyn cyfatebol. Er enghraifft, bydd y cynnwys a ysgrifennwyd yn Nodyn:Diogelwyd yn ymddangos mewn unrhyw erthygl sy'n cynnwys y tag {{diogelwyd}}. Cymrwch olwg ar Wicipedia:Nodiadau er mwyn gweld pa nodiadau sydd wedi cael eu creu eisoes. Gallwch ddefnyddio'r tagiau cyfatebol mewn erthyglau. Gallwch greu nodiadau newydd hefyd.

Mae gan yr holl dudalennau prosiect hyn dudalennau Sgwrs eu hunain hefyd.

Am fwy o wybodaeth am namespaces, gweler Wicipedia:Namespace

Parhau â'r tiwtorial gyda Pethau i'w cofio