Bwa (pensaernïaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: el:Αψίδα yn newid: et:Kaar (arhitektuur)
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: oc:Arc (arquitectura)
Llinell 55: Llinell 55:
[[no:Bue (arkitektur)]]
[[no:Bue (arkitektur)]]
[[nrm:Arche]]
[[nrm:Arche]]
[[oc:Arc (arquitectura)]]
[[pl:Łuk (architektura)]]
[[pl:Łuk (architektura)]]
[[pnb:آرچ]]
[[pnb:آرچ]]

Fersiwn yn ôl 02:27, 4 Awst 2011

Pont Rufeinig yn Alcántara, Sbaen.

Bwa mewn pensaernïaeth yw'r term a ddefnyddir ar gyfer adeiladwaith sydd yn gallu cymeryd pwysau sylweddol uwch ei ben gyda lle gwag oddi tanodd.

Ymddangosodd y bwa am y tro cyntaf yn yr ail fileniwn CC, ym Mesopotamia wedi eu hadeiladu o frics. Adeiladwyd hwy hefyd gan y Babiloniaid, mae Porth Ishtar yn enghraifft enwog. Lledaenodd y wybodaeth i Ewrop a chafodd y bwa ei ddefnyddio gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid.

Roedd y bwa Rhufeinig yn hanner crwn gyda nifer anghydrif o friciau neu feini. Trwy hyn gellir cael maen clo yng nghanol y bwa. Dilynwyd hyn gan ddatblygiad y bwa ar ffurf pig, a ddefnyddid mewn pensaernïaeth Islamaidd ac mewn pensaernïaeth Gothig yn Ewrop. Mae'r math yma o fwa yn gryfach na bwa ar hanner cylch. Y ffurf gryfaf ar fwa yw'r bwa parabolig; defnyddiwyd y math yma ar fwa gan y pensaer Antoni Gaudí o Gatalonia.