Comin Wicimedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ilo:Wikimedia Commons |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Commons-logo.svg|150px|bawd|Logo Comin Wicifryngau (gan Reid Beels)]] |
[[Delwedd:Commons-logo.svg|150px|bawd|Logo Comin Wicifryngau (gan Reid Beels)]] |
||
Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw '''Comin Wicifryngau''' (''Wikimedia Commons'', hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau [[Sefydliad Wicifryngau]] yw hi, a gellir prosiectau eraill ar wasanaethwyr Wicifryngau, e.e. [[Wicipedia]], [[Wiciadur]] a [[ |
Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw '''Comin Wicifryngau''' (''Wikimedia Commons'', hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau [[Sefydliad Wicifryngau]] yw hi, a gellir prosiectau eraill ar wasanaethwyr Wicifryngau, e.e. [[Wicipedia]], [[Wiciadur]] a [[Wicilyfrau]], defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol. |
||
==Hanes== |
==Hanes== |
Fersiwn yn ôl 12:55, 30 Gorffennaf 2011
Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw Comin Wicifryngau (Wikimedia Commons, hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau Sefydliad Wicifryngau yw hi, a gellir prosiectau eraill ar wasanaethwyr Wicifryngau, e.e. Wicipedia, Wiciadur a Wicilyfrau, defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol.
Hanes
Lansiodd y prosiect ar 7 Medi 2004. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd y 10,000fed ffeil ei huwchlwytho.
Ar 25 Tachwedd 2009, rhoddodd y Tropenmuseum, Amsterdam rodd o 35,000 o ddelweddau sy'n ymwneud ag Indonesia a'i diwylliant i Gomin Wicifryngau.
Ar ddiwedd Rhagfyr 2009 dechreuwyd trosglwyddo tua 1.5 miliwn o ddelweddau o dirwedd ac aneddiadau gwledydd Prydain o wefan Geograph i'r Comin.
Ieithoedd
Prif iaith y Comin yw Saesneg, ond mae'n bosibl ffurfweddu'r rhyngwyneb (yn newisiadau'r defnyddiwr) i ddefnyddio unrhyw iaith arall. Mae rhai o'r tudalennau wedi cael eu cyfieithu i mewn i ieithoedd eraill e.e. yr Hafan yn Gymraeg.
Hawlfreintiau
Dydy Comin Wicifryngau dim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau Creative Commons heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r parth cyhoeddus.