Comin Creu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Creative Commons)
Comin Creu
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw, cyhoeddwr, awdur Edit this on Wikidata
Rhan ofree-culture movement Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu15 Ionawr 2001 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCreative Commons Global Network Edit this on Wikidata
Prif weithredwrRyan Merkley, Catherine Stihler Edit this on Wikidata
SylfaenyddLawrence Lessig, Hal Abelson, Eric Eldred Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCommunia, UNESCO Global Open Science Partnership, Open Source Initiative, Open Education Global Edit this on Wikidata
Gweithwyr147 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Cynnyrchtrwyddedau Comin Creu Edit this on Wikidata
PencadlysMountain View Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://creativecommons.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydliad nid-er-elw yw Comin Creu (Saesneg: Creative Commons neu cc) a sefydlwyd gyda'r nod o ehangu'r ystod o weithiau creadigol sydd ar gael i'w rhannu'n gyfreithlon.[1]

Mae'r sefydliad wedi rhyddhau sawl trwydded hawlfraint i'r cyhoedd am ddim.

Gall y crewr, boed arlunydd, awdur neu arall, ddefnyddio un o nifer o'r trwyddedau hyn, yn ddibynol ar faint o hawliau mae'n dewis eu rhyddhau i bobl eraill. Nid yw'r trwyddedau'n cymryd lle hawlfraint, ond wedi'u sefydlu'n soled ar hawlfraint. Mae nhw'n cymryd lle yr angen i unigolion drafod a negydu hawliau arbennig - rhwng perchennog yr hawlraint (y trwyddedwr) a defnyddiwr y gwaith (y trwyddedig). Gall faint o hawliau a ryddheir amrywio o "Cedwir pob hawl" i drwydded hollol rydd lle nad yw perchennog y gwaith ddim yn dymuno arian am y defnydd o'r gwaith, na chydnabyddiaeth arall mewn unrhyw fodd. Mae bron y cyfan sydd ar Wicipedia a nifer o gyrff eraill yn dod o dan drwydded rhydd CC-BY-SA.[2]

Sefydlwyd y mudiad yn 2001 gan Lawrence Lessig, Hal Abelson, ac Eric Eldred[3] gyda chefnogaeth the Center for the Public Domain. Sgwennwyd yr erthygl gyntaf am Comin Creu gan Hal Plotkin yn Chwefror 2002.[4] Rhyddhawyd y set cyntaf o drwyddedau yn Rhagfyr 2002.[5][6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Frequently Asked Questions". Creative Commons. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2011.
  2. "Wikimedia Foundation Terms of Use". Cyrchwyd June 11, 2012.
  3. "Creative Commons: History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-23. Cyrchwyd 2011-10-09.
  4. Plotkin, Hal (11 February 2002). "All Hail Creative Commons Stanford professor and author Lawrence Lessig plans a legal insurrection". SFGate.com. Cyrchwyd 2011-03-08.
  5. "History of Creative Commons". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-13. Cyrchwyd 2009-11-08.
  6. Haughey, Matt (2002-09-18). "Creative Commons Announces New Management Team". creativecommons.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-07. Cyrchwyd 2013-05-07.