Seisnigo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Seisnigo yng Nghymru: dolen |
ychwanegu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Seisnigo''' neu '''Seisnigeiddio''' yw'r broses o |
'''Seisnigo''' neu '''Seisnigeiddio''' yw'r broses o ddisodli [[iaith]] frodorol a gosod y [[Saesneg]] yn ei lle. |
||
== Seisnigo yng Nghymru == |
== Seisnigo yng Nghymru == |
||
Am ganrifoedd, mae dylanwad |
Am ganrifoedd, mae dylanwad yr iaith [[Saesneg]] yng [[Cymru|Nghymru]] wedi arwain at Seisnigo helaeth yn y wlad, yn bennaf mae wedi bod yn gyfrifol am y gostyngiad yn y niferoedd sy'n siarad [[Cymraeg]]. Yn y 19eg ganrif gorfodwyd y Saesneg ar drigolion Saesneg mewn sawl ffordd gan gynnwys gwneud y Saesneg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth cyrff megis y [[Swyddfa Bost]] a chynghorau tref a sir a holl ffurflenni cenedlaethol e.e. tystysgrif geni, treth. Y Saesneg oedd iaith addysg hefyd a defnyddiwyd dulliau fel y [[Welsh Not]] i sicrhau na fyddai plant Cymru'n siarad Cymraeg yn ysgolion y wlad. Digwyddodd hyn yn ddiweddar mewn sawl ffordd: y [[mewnlifiad]] o Loegr i Gymru a thrwy'r cyfryngau Saesnig megis [[teledu|y teledu]]. |
||
Gwelir [[Benthyg geiriau i'r Gymraeg#Saesneg|effaith y Saesneg ar eiriau Cymraeg]] gyda thermau o darddiad [[Saesneg]] yn disodli hen eiriau Cymraeg, e.e. erbyn heddiw, defnyddir yr enw [[Lerpwl]] ([[Cymreigio|Cymreigiad]] o ''Liverpool'') llawer amlach na'r hen enw Llynlleifiad. Mae idiomau Saesneg hefyd wedi disodli llawer o'r idiomau cynhenid e.e. "cario mlaen" a glywir yn aml ar y cyfryngau yn hytrach na "dal ati". Mae'r [[Faner Newydd]] wedi bod yn flaenllaw yn eu hymgyrch i newid hyn. |
|||
Mae Seisnigo wedi arwain at ymateb eithafol gan rai [[Cymry]], e.e. ymgyrch [[cymdeithas yr iaith]] i beintio arwyddion uniaith Saesneg yn yr [[1970au]], neu [[Llosgi Tai Haf|losgi tai haf]] yn yr [[1980au]] i atal y llif o Saeson. |
|||
== Gweler hefyd == |
== Gweler hefyd == |
Fersiwn yn ôl 06:59, 22 Gorffennaf 2011
Seisnigo neu Seisnigeiddio yw'r broses o ddisodli iaith frodorol a gosod y Saesneg yn ei lle.
Seisnigo yng Nghymru
Am ganrifoedd, mae dylanwad yr iaith Saesneg yng Nghymru wedi arwain at Seisnigo helaeth yn y wlad, yn bennaf mae wedi bod yn gyfrifol am y gostyngiad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg. Yn y 19eg ganrif gorfodwyd y Saesneg ar drigolion Saesneg mewn sawl ffordd gan gynnwys gwneud y Saesneg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth cyrff megis y Swyddfa Bost a chynghorau tref a sir a holl ffurflenni cenedlaethol e.e. tystysgrif geni, treth. Y Saesneg oedd iaith addysg hefyd a defnyddiwyd dulliau fel y Welsh Not i sicrhau na fyddai plant Cymru'n siarad Cymraeg yn ysgolion y wlad. Digwyddodd hyn yn ddiweddar mewn sawl ffordd: y mewnlifiad o Loegr i Gymru a thrwy'r cyfryngau Saesnig megis y teledu.
Gwelir effaith y Saesneg ar eiriau Cymraeg gyda thermau o darddiad Saesneg yn disodli hen eiriau Cymraeg, e.e. erbyn heddiw, defnyddir yr enw Lerpwl (Cymreigiad o Liverpool) llawer amlach na'r hen enw Llynlleifiad. Mae idiomau Saesneg hefyd wedi disodli llawer o'r idiomau cynhenid e.e. "cario mlaen" a glywir yn aml ar y cyfryngau yn hytrach na "dal ati". Mae'r Faner Newydd wedi bod yn flaenllaw yn eu hymgyrch i newid hyn.
Mae Seisnigo wedi arwain at ymateb eithafol gan rai Cymry, e.e. ymgyrch cymdeithas yr iaith i beintio arwyddion uniaith Saesneg yn yr 1970au, neu losgi tai haf yn yr 1980au i atal y llif o Saeson.