Gŵyl Ban Geltaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn Iwerddon ac a fynychir gan gynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd yw'r '''Ŵyl Ban Geltaidd''' [[Image:G...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:15, 10 Mai 2011
Gŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn Iwerddon ac a fynychir gan gynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd yw'r Ŵyl Ban Geltaidd
Cefndir a chystadlaethau
Cynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd gyntaf ym 1971, ac ers hynny, mae'r ŵyl wedi cael ei chynnal pob mis Ebrill yn flynyddol mewn amrywiol leoliadau yn yr ardaloedd Gaeltacht yn Iwerddon. Daw cynrychiolwyr o Gymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw i gymeryd rhan yn yr ŵyl a chynhelir sawl cystadleuaeth dros chwe diwrnod gan gynnwys Cân Wreiddiol, Cystadlaethau Canu Côr a Dawns.[1]
Cynrychiolwyr Cymru
Enillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru fydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn flynyddol. Yng nghystadleuaeth 2011, Cymru ennillodd y wobr am y gân wreiddiol orau.[2]