Trio Mandili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Gwrthdröwyd Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Infobox musical artist |
{{Infobox musical artist |
||
| name = Trio Mandili |
| name = Trio Mandili |
||
| image = |
| image = Trio Mandili.jpg |
||
| image_upright = |
| image_upright = |
||
| landscape = <!-- yes, if wide image, otherwise leave blank --> |
| landscape = <!-- yes, if wide image, otherwise leave blank --> |
Fersiwn yn ôl 11:32, 15 Rhagfyr 2023
Trio Mandili | |
---|---|
Delwedd:Trio Mandili.jpg | |
Y Cefndir | |
Tarddiad | Georgia |
Gwefan | triomandili.com/ |
Aelodau | |
| |
Cyn-aelodau | |
|
Triawd cerddorol o wlad Jorjia (Georgia) yw Trio Mandili. Maent yn canu caneuon gwerin Jorjia mewn trefniaint harmoni poliffonig i gyfeiliant liwt Pandwri. Mandili yw'r penwisg sgarff Jorjaidd a wisgir ganddynt. Maent yn canu yn nhafodiaith Chefsureteg (Saesneg: Khevsureti), ardal yng ngogledd-ddwyrain y wlad, sy'n ffinio â Chechnya.
Aelodaeth a Llwyddiant
Y tair aelod wreiddiol oedd: Ana Chintscharauli (ანა ჭინჭარაული), Tatya Mgeladze (თათია მგელაძე) a Schorena Ziskarauli (შორენა ცისკარაული). Yr aelodau cyfredol yw: Mari Qurasbediani, Tatia Mgeladze a Tako Tsiklauri.
Daethant i amlygrwydd wedi iddynt lwytho fideo gerddorol arlein o'r gân werin Jorjaidd, "Apareka". Gwelwyd y fideo dros 5 miliwn gwaith.[1][2]
Yn sgil y diddordeb yma fe'i gwahoddwyd i gyngherddau a rhaglenni radio a theledu yn yr Almaen, Gwlad Belg, Gwlad Pŵyl, Rwsia ac Iwcrain.
Cyhoeddwyd 'With Love' yn 2015 oedd yn cyfuno canu caneuon gwerin poliffonig ond hefyd addasiad o'r gân Chito Grito gan Vachtang Kikabidze o'r ffilm gomedi Sofietaidd boblogaidd, Mimino, o 1977.
Cystadlodd y Trio Mandili yn rownd rhagbrofol gwlad Jorjia ar gyfer yr Eurovision Song Contest yn 2017. Daethant yn ddeuddegfed yn y gystadleuaeth.
Ni ddylid drysi y Trio Mandili gydag Ensemble Mandili, a sefydlwyd yn 1996 gan sawl ganwr o rhanbarth Samzche-Javakhetia.[3]
Rhyfel Rwsia ar Wcráin 2022
Yn ystod Rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022, fe ddangosodd y grŵp eu cefnogaeth i luoedd arfog a phobl Wcráin oedd yn ymladd dros annibyniaeth y wlad drwy sefydlu elusen 'Mandili Cares' er mwyn codi arian i darparu bwyd a llety i ffoaduriaid Wcráin.[4] Bu hefyd iddynt fynd i'r ffin rhwng Gwlad Pwyl ac Wcráin i gynorthwyo ffoaduriaid gan ddod â rhoddion ac adloniant iddynt.[5] Roedd hyn yn cynnwys cynnal cyngherddau fel un yn nhref Radom yng Ngwlad Pwyl.[6]
Discograffi
2015.: With Love, Trio Mandili (CD, Albwm) dim ar label none Jorjia
2016.: With Love, Trio Mandili (LP, Albwm, RE) Merlins Orr Records MN 1014LP Yr Almaen
2017.: Enguro
2021.: Sakartvelo
Dolenni
- History of Trio Mandili by their videos ar Youtube
- Trio Mandili - Apareka
- Trio Mandili - Erti nakhvit
- Trio Mandili - Me da Shen (ti a fi), cân ffeindal i gynrychioli Jorjia yn Eurovision 2017
Cyfeiriadau
- ↑ Tamada Travels: Georgia's Instant Singing Stars
- ↑ 3 Women Harmonizing A Georgian Song Will Transport You To Another Time
- ↑ Mandili Ensemble & Nat'o Ts'ik'lauri. Archifwyd 2018-06-26 yn y Peiriant Wayback. T'sutisopeli
- ↑ "Mandili Cares - Don't stay indifferent!". Gwefan Trio Mandili ar Youtube. 2 Ebrill 2022.
- ↑ "Trio Mandili - Charitable trip to Polish-Ukrainan border". Gwefan Youtube Trio Mandili. 18 Ebrill 2022.
- ↑ "Trio Mandili - concert in Radom #1 Solidarni z Ukrainą 2022". fideo ar Youtube. 2022-04-18.