Ar lan y môr (cân)
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
![]() |
Cân werin draddodiadol yw Ar lan y môr. Mae ffurfiau amrywiol o'r gân yn bodoli, gan gynnwys rhai lle mae'r mesur a thestun rhai penillion yn awgrymu bod mewnosodiadau o ganeuon eraill yn bresennol. Mae hi'n gân serch.
Geiriau[golygu | golygu cod]
Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.
Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari.
Ar lan y môr mae cerrig gleision
Ar lan y môr mae blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rinweddau
Ar lan y môr mae nghariad innau.
Llawn yw'r môr o swnd a chegryn
Llawn yw'r wy o wyn a melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blode
Llawn o gariad merch wyf inne.
Mor hardd yw'r haul yn codi'r bore
Mor hardd yw'r enfys aml ei liwie
Mor hardd yw natur ym Mehefin
Ond harddach fyth yw wyneb Elin