Ar Drywydd Stori

Oddi ar Wicipedia
Ar Drywydd Stori
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGwyn Griffiths
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi29/04/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784611231

Hunangofiant gan Gwyn Griffiths yw Ar Drywydd Stori: Atgofion Newyddiadurwr o Geredigion a gyhoeddwyd yn 2015 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Hunangofiant darllenadwy Gwyn Griffiths, awdur a newyddiadurwr a fagwyd yn Nhregaron, un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Gweithiodd i fudiad Urdd Gobaith Cymru, i bapur newydd wythnosol Y Cymro ac i BBC Cymru fel swyddog y wasg, pennaeth y wasg a newyddiadurwr yn y cyfryngau newydd a phrofodd newidiadau mawr ym mywyd Cymru, y Gymraeg a'r cyfryngau. Ceir 56 llun.

Mab tyddyn o gyrion Cors Caron sydd bellach yn byw ym Mhontypridd. Mae Gwyn Griffiths yn awdur a newyddiadurwr a'’i hunangofiant yn hanes cyfnod – dyddiau da a heddychlon, o gyni amaethyddol a ddilynwyd gan newidiadau technolegol mawr. Ysgrifennodd nifer o lyfrau a bu’'n cyfrannu'’n gyson i gylchgronau a phapurau Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Llydaweg. Gwnaeth gysylltiadau tramor yn arbennig gyda Llydaw. Yn ogystal ag ysgrifennu cyfrolau am Lydaw sefydlodd amgueddfa yn Roscoff i'’r gwerthwr winwns enwog Sioni Winwns.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017