Anthony Bourdain

Oddi ar Wicipedia
Anthony Bourdain
Ganwyd25 Mehefin 1956 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 2018 Edit this on Wikidata
Kaysersberg-Vignoble Edit this on Wikidata
Man preswylManhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Vassar
  • The Culinary Institute of America at Hyde Park
  • Dwight-Englewood School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcogydd, ysgrifennwr, nofelydd, pen-cogydd, cyflwynydd teledu, awdur ysgrifau, teithiwr, newyddiadurwr, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Brasserie Les Halles Edit this on Wikidata
PriodNancy Putkoski, Ottavia Busia Edit this on Wikidata
PartnerAsia Argento Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anthonybourdain.com/ Edit this on Wikidata

Cogydd, awdur, a chyflwynydd rhaglenni dogfen teithio teledu Americanaidd oedd Anthony Michael Bourdain (25 Mehefin 19568 Mehefin 2018).

Ar ôl iddo raddio o Culinary Institute of America ym 1978 cafodd yrfa hir fel cogydd mewn ceginau proffesiynol amrywiol, gan gynnwys blynyddoedd lawer a dreuliodd fel cogydd gweithredol yn Brasserie Les Halles ym Manhattan, Efrog Newydd. Roedd ei lyfr Kitchen Confidential (2000) yn llwyddiannus yn rhyngwladol. Mae'r llyfr yn edrych y tu ôl i'r llenni mewn ceginau bwyty, gan bwysleisio dwyster, annymunolrwydd a helynt y proffesiwn coginio. Daeth ag enwogrwydd rhyngwladol iddo.

Parhaodd ei sioe deledu gyntaf ar thema bwyd a theithio, A Cook's Tour, am 35 pennod ar y Food Network yn 2002 a 2003. Wedyn ymunodd â'r Travel Channel i fod yn gyflwynydd y rhaglenni o fath tebyg, Anthony Bourdain: No Reservations (2005–12) a The Layover (2011–13). Yn 2013, cyflwynodd Anthony Bourdain: Parts Unknown ar gyfer CNN.

Yn ogystal â'i lyfrau ar anturiaethau bwyd a choginio a theithio, ysgrifennodd ffuglen a ffeithiol hanesyddol hefyd.

Ar 8 Mehefin 2018 lladdodd Bourdain ei hun tra yn Ffrainc yn recordio deunydd ar gyfer ei raglen Parts Unknown.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffeithiol[golygu | golygu cod]

  • Kitchen Confidential: Adventures in the Culinary Underbelly (2000)
  • A Cook's Tour: In Search of the Perfect Meal (2001)
  • Typhoid Mary (2001)
  • Anthony Bourdain's Les Halles Cookbook: Strategies, Recipes, and Techniques of Classic Bistro Cooking (2004)
  • The Nasty Bits: Collected Cuts, Useable Trim, Scraps and Bones (2006)
  • No Reservations: Around the World on an Empty Stomach (2007)
  • Medium Raw: A Bloody Valentine to the World of Food and the People Who Cook (2010)
  • Appetites: A Cookbook (2016)

Ffuglen[golygu | golygu cod]

  • Bone in the Throat (1995)
  • Gone Bamboo (1997)
  • The Bobby Gold (2001)
  • Get Jiro! (nofel graffig; gyda Joel Rose) (2013)
  • Get Jiro: Blood and Sushi (nofel graffig; gyda Joel Rose) (2016)