Anne Hathaway (actores)
Anne Hathaway | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Anne Jacqueline Hathaway ![]() 12 Tachwedd 1982 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr, actor teledu, actor llwyfan, actor llais ![]() |
Adnabyddus am | The Princess Diaries, The Devil Wears Prada, The Dark Knight Rises, Rio (ffilm 2011), Rio 2 ![]() |
Math o lais | soprano ![]() |
Taldra | 173 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Priod | Adam Shulman ![]() |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Mae Anne Jacqueline Hathaway (ganed 12 Tachwedd 1982) yn actores Americanaidd. Cafodd ei swydd actio gyntaf ym 1999 yn y gyfres deledu Get Real, ond cafodd ei gyrfa fel actores ei ystyried o ddifrif pan gafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yng nghomedi deuluol Disney, The Princess Diaries lle gweithiodd gyda Julie Andrews.
Parhaodd i ymddangos mewn ffilmiau teuluol dros y tair blynedd nesaf, gan chwarae'r prif ran yn Ella Enchanted a The Princess Diaries 2: Royal Engagement yn 2004. Yn ddiweddarach, dechreuodd Hathaway actio mewn ffilmiau mwy beiddgar fel Havoc a Brokeback Mountain. Actiodd hefyd yn The Devil Wears Prada, gyda Meryl Streep; Becoming Jane, lle portreadodd Jane Austen, a Get Smart gyda Steve Carell. Yn 2008 derbyniodd ganmoliaeth eang am ei rôl yn y ffilm Rachel Getting Married. Derbyniodd amrywiaeth o wobrau am y rôl, gan gynnwys enwebiad am Wobr yr Academi am yr Actores Orau.
Mae ei dull o actio wedi cael ei gymharu i ddull Judy Garland ac Audrey Hepburn [1] ac mae'n cyfeirio at Hepburn fel un o'i hoff actoresau a Meryl Streep fel ei heilun. Enwodd y cylchgrawn People Hathaway fel un o brif actorion newydd 2001 ac yn 2006, cafodd ei henwi fel un o 50 Person Mwyaf Prydferth y byd.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Jeff Dawson. "Dressed for Success" The Sunday Times Medi 24, 2006 Adalwyd 26 Chwefror 2009
- ↑ Cylchgrawn People Adalwyd 26 Chwefror 2009