Anne Enright

Oddi ar Wicipedia
Anne Enright
Ganwyd11 Hydref 1962 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Blodeuodd2012 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Gathering Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Man Booker, Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Gwyddelig, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Andrew Carnegie Medal for Excellence in Fiction Edit this on Wikidata

Mae Anne Teresa Enright FRSL (ganwyd 11 Hydref 1962) yn awdur Gwyddelig. Cyhoeddodd nifer o nofelau, straeon byrion, traethodau, ac un llyfr ffeithiol. Mae'n gymrawd 'Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth'. Enillodd ei nofel The Gathering wobr Man Booker, 2007. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig 1991, Gwobr Encore 2001 a Nofel y Flwyddyn 2008 yn Iwerddon.

Fe'i ganed yn Nulyn ar 11 Hydref 1962. Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif pan roddodd ei theulu deipiadur trydan iddi ar gyfer ei phen-blwydd yn 21 oed. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg y Drindod, Dulyn a Phrifysgol Dwyrain Anglia.[1][2][3][4]

Bu'n gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr teledu i RTÉ yn Nulyn am chwe blynedd a chynhyrchodd y rhaglen Nighthawks am bedair blynedd. Yna gweithiodd ar raglenni plant am ddwy flynedd ac ysgrifennodd ar benwythnosau. Dechreuodd Enright ysgrifennu'n llawn amser yn 1993.[5] Cychwynodd ei gyrfa llawn amser fel awdur pan adawodd byd y teledu oherwydd iddi dorri lawr. Mae Enright yn byw yn Bray, Swydd Wicklow gyda'i phriod Martin Murphy, sy'n gyfarwyddwr Theatr y Pafiliwn yn Dún Laoghaire. Mae ganddynt ddau o blant, mab a merch.[6][7]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Mae gwaith cynnar Enright wedi cael ei gymharu'n aml â gwaith Flann O'Brien, gan feirniaid llenyddol. Cyhoeddwyd y Portable Virgin, casgliad o'i straeon byrion, ym 1991. Mynnodd Angela Carter ei fod yn “gain, yn wenwynog iawn, bob amser yn ddeallus ac, yn anad dim, yn gwbwl wreiddiol. Cyhoeddwyd nofel gyntaf Enright, The Wig My Father Wore, ym 1995. Mae'r llyfr yn archwilio themâu fel cariad, mamolaeth, Pabyddiaeth, a rhyw. Roedd nofel nesaf Enright, What Are You Like? (2000), yn ymwneud â gefeilliaid o'r enw Marie a Maria sy'n cael eu gwahanu adeg eu geni a'u magu ar wahân i'w gilydd yn Nulyn a Llundain. Mae'n edrych ar densiynau ac eironi rhwng aelodau'r teulu. Cafodd ei roi ar y rhestr fer yng nghategori newydd Gwobrau Whitbread.[8] Mae ei llyfr Making Babies: Stumbling into Motherhood (2004) yn gasgliad o draethodau gonest a doniol am enedigaeth a mam. Cyhoeddwyd pedwerydd nofel Enright, The Gathering, yn 2007.

Yn 2015, penodwyd Enright fel 'Prifardd (neu 'lawryf') Llenyddiaeth Gaeleg' cyntaf gan y Taoiseach Enda Kenny. Yn ystod ei chyfnod fel Llawryf Ffuglen Wyddelig, ceisiodd Enright gysylltu pobl gyffredin Iwerddon â llenyddiaeth Iwerddon trwy ddarlithoedd cyhoeddus a dosbarthiadau ysgrifennu creadigol. Treuliodd un semester yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn ac un semester ym Mhrifysgol Efrog Newydd.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [9]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Man Booker (2007), Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Gwyddelig (1991), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Andrew Carnegie Medal for Excellence in Fiction (2012)[10][11] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12265692c. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12265692c. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Anne Enright". https://cs.isabart.org/person/151898. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151898. "Anne Enright". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  5. "Hoping to win another Booker Prize for Ireland". Bray People. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw jeffries_stuart
  7. Purcell, Bernard; Battersby, Eileen (17 Hydref 2007). "Irish novelist beats the odds to win Booker Prize for 'The Gathering'". The Irish Times. Irish Times Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-11. Cyrchwyd 17 Hydref 2007.
  8. Gilling, Tom (18 Tachwedd 2001). "Earth Angel". The New York Times. Cyrchwyd 17 Hydref 2007.
  9. Anrhydeddau: https://thebookerprizes.com/fiction/backlist/2007. http://www.ala.org/news/mediapresscenter/presskits/Carngie2012.
  10. https://thebookerprizes.com/fiction/backlist/2007.
  11. http://www.ala.org/news/mediapresscenter/presskits/Carngie2012.