Anhwylder panig

Oddi ar Wicipedia
Anhwylder panig
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder gorbryder, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauGorguro’r galon, pwl o banig edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anhwylder meddyliol ac ymddygiadol yw anhwylder panig,[1] yn benodol anhwylder gorbryder a nodweddir gan pyliau o banig annisgwyl sy'n ailddigwydd.[2] Mae pyliau o banig yn gyfnodau sydyn o ofn dwys a all gynnwys crychguriadau'r galon, chwysu, crynu, diffyg anadlu, diffyg teimlad, neu deimlad bod rhywbeth ofnadwy yn mynd i ddigwydd.[2][3] Mae'r graddau uchaf o symptomau yn digwydd o fewn munudau.[3] Mae’n bosibl y bydd pryderon parhaus ynghylch ymosodiadau pellach ac osgoi mannau lle mae ymosodiadau wedi digwydd yn y gorffennol.[2]

Nid yw achos anhwylder panig yn hysbys.[4] Mae anhwylder panig yn aml yn rhedeg mewn teuluoedd. Mae ffactorau risg yn cynnwys ysmygu, straen seicolegol, a hanes o gam-drin fel plentyn.[3] Mae diagnosis yn golygu diystyru achosion posibl eraill o bryder gan gynnwys anhwylderau meddwl eraill, cyflyrau meddygol fel clefyd y galon neu hyperthyroidiaeth, a defnyddio cyffuriau. Gellir sgrinio am y cyflwr gan ddefnyddio holiadur.[4][5]

Mae anhwylder panig fel arfer yn cael ei drin â chwnsela a meddyginiaethau.[4] Y math o gwnsela a ddefnyddir fel arfer yw therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) sy'n effeithiol mewn mwy na hanner y bobl.[4][6] Mae meddyginiaethau a ddefnyddir yn cynnwys meddyginiaeth gwrth-iselder ac weithiau benzodiazepines neu beta-atalyddion.[2][4] Ar ôl rhoi'r gorau i driniaeth, mae hyd at 30% o bobl yn cael treferthion eto.[6]

Mae anhwylder panig yn effeithio tua 2.5% o bobl ar ryw adeg yn eu bywyd.[6] Mae fel arfer yn dechrau yn ystod llencyndod neu oedolaeth gynnar, ond gall effeithio ar bobl o unrhyw oedran. Mae'n llai cyffredin ymhlith plant a phobl hŷn. Mae menywod yn cael eu heffeithio'n amlach na dynion.[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Classification of Mental and Behavioural Disorders" (PDF). WHO.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Anxiety Disorders". National Institute of Mental Health (NIMH) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-22.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Diagnostic and statistical manual of mental disorders : DSM-5. Internet Archive. Arlington, VA : American Psychiatric Association. 2013. ISBN 978-0-89042-554-1.CS1 maint: others (link)
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 "NIMH » Panic Disorder: When Fear Overwhelms". web.archive.org. 2016-10-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-04. Cyrchwyd 2022-02-22.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  5. Herr, Nathaniel R.; Williams, John W., Jr; Benjamin, Sophiya; McDuffie, Jennifer (2014-07-02). "Does This Patient Have Generalized Anxiety or Panic Disorder?: The Rational Clinical Examination Systematic Review". JAMA 312 (1): 78–84. doi:10.1001/jama.2014.5950. ISSN 0098-7484. https://doi.org/10.1001/jama.2014.5950.
  6. 6.0 6.1 6.2 Craske, Michelle G.; Stein, Murray B. (2016-12-17). "Anxiety" (yn English). The Lancet 388 (10063): 3048–3059. doi:10.1016/S0140-6736(16)30381-6. ISSN 0140-6736. PMID 27349358. https://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(16)30381-6/abstract.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]