Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Therapi seicolegol yw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) sy’n gallu helpu pobl i reoli eu problemau trwy newid eu ffordd o feddwl ac ymddwyn. Fell arfer caiff ei ddefnyddio i drin unigolyn sy’n dioddef o bryder ac iselder. Hefyd gall CBT fod o ddefnydd ar gyfer problemau iechyd meddwl a chorfforol eraill.

Mae CBT yn gweithio ar y cysylltiadau rhwng eich meddyliau (gwybyddiaeth), ymddygiad a theimladau. Mae'n dysgu unigolion sut i adnabod a mynd i’r afael â’u problemau yn y fan a’r lle, yn hytrach nag yn y gorffennol. Mae’n destun astudiaethau helaeth, ac mae tystiolaeth ei fod yn gweithio, yn enwedig mewn perthynas ag iselder a phryder.

Yn draddodiadol, cyfres o sesiynau unigol gyda seicolegydd oedd CBT.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Therapi Gwybyddol Ymddygiadol". http://www.biapowys.cymru.nhs.uk/curo-r-felan-ar-lein-therapi-gwybyddol-y.