Angharad Edwards

Oddi ar Wicipedia
Angharad Edwards
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Mae Angharad Edwards yn awdur Cymreig.

Mynychodd Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn mynd ymlaen i Goleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin, lle enillodd gradd mewn Cymraeg a Chrefydd. Wedi gadael y coleg bu'n gweithio am gyfnod mewn siop lysiau cyn symud i Sir Conwy lle fu'n gweithio fel cyfieithydd am 6 mlynedd. Dychwelodd i Aberystwyth lle mae'n gweithio fel darlithydd yn Adran Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Aberystwyth [1]

Mae Angharad Edwards yn byw yng Nghomins Coch ger Aberystwyth. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Deffro, fel rhan o Gyfres Cig a Gwaed yn 2013 gan Wasg Gomer.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Angharad Edwards ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.