Anewra blonegog
| Anewra blonegog Aneura pinguis | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Marchantiophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Metzgeriales |
| Teulu: | Aneuraceae |
| Genws: | Aneura |
| Rhywogaeth: | A. pinguis |
| Enw deuenwol | |
| Aneura pinguis | |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Anewra blonegog (enw gwyddonol: Aneura pinguis; enw Saesneg: greasewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Metzgeriales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r Anewra blonegog yn edrych yn seimllyd ac yn wyrdd, ac felly'n ddigon hawdd i'w hadnabod. Gall amrywio'n fawr o ran maint. Mae'r thali bach yn llai nag 1 cm o hyd, tra gall y rhai fwyaf fod yn 8 cm neu fwy. Mae pob thalws yn drwchus a cheir organau rhywiol ar ochrau'r thali, mae sboroffytau silindrog hefyd yn gyffredin.[1]
Gellir ei gangymryd yn ddigon hawdd am y Saetslys canghennog (Riccardia multifida), ond mae ei liw gwyrdd, fel arfer, yn ddigon o gliw i'w adnabod gan fod y Saetslys canghennog yn frown-wyrdd, tywyllach.
Cynefin
[golygu | golygu cod]Ei gynefin fel rheol yw mannau tamp, ond mae hefyd i'w gael mewn hen chwareli, ar lwybrau o ro mân, a llefydd diffaith fel ochrau ffyrdd bychan. Mae'r planhigion mwyaf, fodd bynnag, i'w cael mewn coedwigoedd, yn enwedig ar bren marw.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.