Andrew Sachs
Gwedd
| Andrew Sachs | |
|---|---|
| Llais | Andrew Sachs voice.ogg |
| Ganwyd | Andreas Siegfried Sachs 7 Ebrill 1930 Berlin |
| Bu farw | 23 Tachwedd 2016 Llundain |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | digrifwr, actor llais, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor, sgriptiwr, ysgrifennwr |
| Priod | Melody Sachs |
| Plant | John Sachs, Kate Sachs |
Actor o Loegr a anwyd yn yr Almaen oedd Andrew Sachs (ganed Andreas Siegfried Sachs; 7 Ebrill 1930 – 23 Tachwedd 2016).[1] Daeth i amlygrwydd ar rhaglenni yn y Deyrnas Unedig ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei bortread o'r Sbaenwr Manuel ar Fawlty Towers. Ei rôl ddiweddaraf oedd Ramsay Clegg ar yr opera sebon o Fanceinion, Coronation Street.
Fe'i ganwyd yn Berlin, yn fab i Katharina (née Schrott-Fiecht) a Hans Emil Sachs. Yn 1938 symudodd y teulu i Lundain er mwyn dianc rhag y Natziaid.
Cafodd ei enwebu am Wobr BAFTA am chwarae rhan Manuel yn Fawlty Towers. Gwnaeth lawer o waith trosleisio yn enwedig fel cyflwynydd rhaglenni dogfenol teledu a radio.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Andrew Sachs, the much loved Fawlty Towers actor, dies age 86. telegraph.co.uk (1 Rhagfyr 2016).