Andrew John

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Andrew John
Ganwyd 9 Ionawr 1964 Edit this on Wikidata (53)
Alma mater Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Nottingham Edit this on Wikidata
Gwaith Offeiriad Edit this on Wikidata

Esgob Etholedig Bangor yw Yr Hybarch Andrew Thomas Griffith John (ganed 9 Ionawr 1964), a etholwyd i'r swydd fel 81ain esgob ar 9 Hydref 2008.

Ganed Andrew John yn Aberystwyth ac astudiodd ym Mhrifysgol Cymru a Choleg Sant Ioan, Nottingham. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn 1990.

Mae Mr John yn Archddiacon Ceredigion ac yn swyddog eciwmenaidd o fewn Esgobaeth Tyddewi. Bu'n ficer tîm yn Aberystwyth o 1992 hyd 1999, yna'n ficer Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth hyd 2006, pan ddaeth yn ficer Pencarreg a Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi.

Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]