Andrés Bello

Oddi ar Wicipedia
Andrés Bello
GanwydAndrés de Jesús María y José Bello López Edit this on Wikidata
29 Tachwedd 1781 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1865 Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsile, Feneswela Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ganolog Feneswela Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, deddfwr, athronydd, addysgwr, ieithegydd, diplomydd, gwleidydd, cyfieithydd, hanesydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddsenator of Chile Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • El Araucano
  • Prifysgol Tsili Edit this on Wikidata
PlantCarlos Bello Boyland Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd ac ysgolhaig o Feneswela yn yr iaith Sbaeneg, a dreuliodd hefyd gyfnodau hir o'i oes yn ddiplomydd yn Lloegr ac yn addysgwr a gwleidydd yn Tsile, oedd Andrés Bello (29 Tachwedd 178115 Hydref 1865). Ystyrir yn un o'r deallusion pwysicaf yn hanes De America.

Aeth i Lundain yn 1810 gyda Simón Bolívar, ac yno arhosodd am 19 mlynedd. Parhaodd a'i waith llenyddol yn Lloegr, gan gynnwys ei farddoniaeth yn yr arddull newydd-glasurol.

Penodwyd i swydd wleidyddol yn Tsile, ac yno daeth yn weinyddwr Prifysgol Santiago. Cynhyrchodd gyfundrefn gyfraith Rufeinig i Tsile. Ysgrifennodd sawl gwerslyfr am ieithyddiaeth y Sbaeneg, gan gynnwys Gramática de la lengua castellana (1847) a Principios de derecho internacional (1844).

Bywyd cynnar yn Feneswela (1781–1810)[golygu | golygu cod]

Ganwyd Andrés Bello yn Caracas, Rhaglywiaeth Granada Newydd, ar 29 Tachwedd 1781. Darllenodd y clasuron yn ei ieuenctid, a dylanwadwyd arno yn enwedig gan Fyrsil.

Astudiodd athroniaeth, cyfreitheg, a meddygaeth ym Mhrifysgol Feneswela. Daeth i adnabod y naturiaethwr Almaenig Alexander von Humboldt yn 1799, ac ymddiddorai felly ym mhwnc daearyddiaeth. Un o ddisgyblion Bello oedd y chwyldroadwr Simón Bolívar, a daeth y ddau ohonynt yn gyfeillion agos.[1]

Llysgenhadaeth i Brydain (1810–29)[golygu | golygu cod]

Yn 1810, adeg gychwynnol Rhyfel Annibyniaeth Feneswela, aeth y llysgenhadaeth gyntaf o Feneswela i Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Ymunodd Bello â'r garfan hon dan arweiniad Bolívar, a oedd yn cynrychioli'r jwnta chwyldroadol. Yn sgil cwymp Gweriniaeth Gyntaf Feneswela yn 1812, ni allai Bello ddychwelyd i'w famwlad.

Er ei sefyllfa, cyd-olygodd y cylchgronau llenyddol La Biblioteca Americana (1823) ac El Repertorio Americano (1826–27).[2] Yn ystod ei gyfnod yn Lloegr, ysgrifennodd Bello ei farddoniaeth wychaf, y ddwy gerdd Silvas americanas a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1826–27. Bwriad Bello i gychwyn oedd i gyfansoddi arwrgerdd hir dan yr enw "América", ond ni lwyddodd i'w gorffen.[1]

Gweithiodd Bello i lysgenadaethau Tsile a Cholombia, a bu hefyd yn addysgu.

Ei yrfa a diwedd ei oes yn Tsile (1829–65)[golygu | golygu cod]

Ar gais llywodraeth Tsile, aeth Bello i Santiago de Chile yn 1829 i weithio yn y swyddfa dramor. Aeth ati i ad-drefnu'r brifysgol yn Santiago gan sefydlu Prifysgol Tsile a dal swydd rheithor y sefydliad hwnnw o 1843 i 1865. Gelwir y brifysgol yn aml yn la casa de Bello (tŷ Bello).[2] Bu hefyd yn golygu newyddiadur y llywodraeth, El Araucano.

Gwasanaethodd yn seneddwr yn Tsile o 1837 hyd at ei farwolaeth, a derbyniodd ddinasyddiaeth Tsileaidd. Bello oedd awdur Cyfraith Rufeinig Tsile, a ddaeth i rym yn 1855. Mabwysiadwyd y gyfraith honno gan lywodraethau Colombia ac Ecwador.

Bu farw yn Santiago ar 15 Hydref 1865 yn 83 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Andrés Bello. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mai 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Simon Collier, "Bello, Andrés (1781–1865)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 3 Mai 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Rafael Caldera, Andrés Bello (1935).
  • Ivan Jaksic, Andrés Bello: Scholarship and Nation-Building in Nineteenth-Century Latin America (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2001).
  • John Lynch (gol.), Andrés Bello: The London Years (1982).