Anaf i'r pen

Oddi ar Wicipedia
Anaf i'r pen
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 S00.0S09.
ICD-9 800-879
eMedicine neuro/153
MeSH [1]

Trawma i'r pen yw anaf i'r pen.

Arwyddion a symptomau[golygu | golygu cod]

Mae symptomau anaf bach i'r pen yn cynnwys cyfog, cur pen, problemau llygaid dros dro megis gweld dwbl, pendro, colled cof, blinder eithafol, ac wrth wella pryder ac iselder. Mae symptomau o anafiadau difrifol i'r pen, gan gynnwys cyfergyd neu anaf i'r ymennydd, yn cynnwys cur pen sy'n parhau am fwy na chwe awr ar ôl cael yr anaf, teimlo'n gysglyd sawl awr ar ôl cael yr anaf, cyfog a chwydu sawl awr ar ôl cael yr anaf, anymwybyddiaeth neu goma, canhwyllau llygaid o faint anghyfartal, dryswch, hylif melyn gwan neu waed dyfrllyd yn dod o'r clustiau neu'r trwyn (sy'n awgrymu torasgwrn i'r benglog), gwaedu o groen y pen na ellir ei atal yn gyflym, gwendid mewn rhan o'r corff, siarad yn aneglur, a ffitiau.[1]

Gall arwyddion o anaf caeedig i'r pen gynnwys lwmp neu chwyddo ar y pen. Gwaedu a thoriad yn y benglog yw arwyddion o anaf treiddiol i'r pen, tra bo symptomau gwybyddol ac emosiynol megis colli cof, neu symptomau ymddygiadol yn y tymor hir megis cael eich cythruddo yn hawdd, yn dynodi anafiadau difrifol.[2]

Achosion[golygu | golygu cod]

Mae damweiniau traffig ffordd yn achosi hyd at hanner yr holl anafiadau i'r pen a adroddir yn y Deyrnas Unedig, gyda damweiniau beicio yn achosi tua 20% o'r holl anafiadau i'r pen sy'n ymwneud â phlant. Mae achosion eraill yn cynnwys baglu a chwympo, anafiadau chwaraeon, damweiniau yn y gwaith, ac ymosodiadau.[3]

Diagnosis[golygu | golygu cod]

Canolbwynt diagnosis o anaf i'r pen yw'r digwyddiadau a arweiniodd at yr anaf. Os yw'r claf yn ei chael yn anodd cofio'r digwyddiad, ymgeisir i gael hanes o bobl eraill a welodd amgylchiadau'r anaf.[2]

Weithiau gwneir sgan CT i chwilio am chwyddo, cleisio, neu waedu yn yr ymennydd, neu belydr-X i weld a fu niwed i'r benglog. Asesir difrifoldeb anaf i'r pen gan ddefnyddio Graddfa Coma Glasgow (GCS). Yn achos anafiadau difrifol i'r pen, caiff pwysedd gwaed, cyfradd curiad calon, ac anadlu y claf eu monitro. Os yw'r ffordd a gafodd y claf yr anaf i'r pen yn galw amdani, cynhelir profion ar rannau eraill o'r corff, megis pelydr-X ar y gwddf neu'r frest.[2]

Atal[golygu | golygu cod]

Er y ceir nifer o anafiadau i'r pen o ganlyniad i ddamweiniau a fyddai'n anodd iawn eu rhagweld neu eu hatal, mae moddion iechyd a diogelwch o leihau'r risg o ddioddef niwed difrifol, megis gwisgo helmed wrth feicio (sy'n lleihau'r risg o ddioddef anaf difrifol i'r pen hyd at 85%), defnyddio goleuadau beic yn ystod y nos, a gwisgo hetiau caled ac esgidiau diogelwch mewn ardaloedd a fydd o bosib yn beryglus megis safleoedd adeiladu.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Anaf i'r pen: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 1 Ionawr, 2011.
  2. 2.0 2.1 2.2  Anaf i'r pen: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 3 Ionawr, 2011.
  3.  Anaf i'r pen: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 1 Ionawr, 2011.
  4.  Anaf i'r pen: Atal. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 16 Ionawr, 2011.