Amy Johnson
Amy Johnson | |
---|---|
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1903 Kingston upon Hull |
Bu farw | 5 Ionawr 1941 Aber Tafwys |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr, peiriannydd, peilot gleiderau |
Swydd | Llywydd Cymdeithas Perianeg y Merched |
Cyflogwr | |
Tad | John William Johnson |
Mam | Amy Hodge |
Priod | Jim Mollison |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Harmon, Gwobr Ryngwladol Menywod am Hedfan, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Segrave Trophy |
Roedd Amy Johnson CBE (1 Gorffennaf 1903 – a diflannodd ar 5 Ionawr 1941) yn beilot arloesol o Loegr a hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Lundain i Awstralia .
Llwyddodd i osod sawl record hedfan dros bellter hir yn ystod y 1930au, a hynny wrth hedfan ar ei phen ei hun neu gyda'i gŵr, Jim Mollison. Ym 1933, Johnson oedd yr ysbrydoliaeth i gymeriad Katharine Hepburn yn y ffilm Christopher Strong. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd hedfanodd fel rhan o'r Air Transport Auxiliary a diflannodd yn ystod taith fferi. Bu llawer o drafod am nifer o flynyddoedd ynghylch union achos ei marwolaeth.
Ei bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Amy Johnson yn 1903 yn Kingston upon Hull, East Riding, Swydd Efrog. Roedd hi'n ferch i Amy Hodge, wyres i William Hodge, Maer Hull, a John William Johnson yr oedd ei deulu yn fasnachwyr pysgod gydag Andrew Johnson, Knudtzon a'r Cwmni. Hi oedd yr hynaf o dair chwaer, a'r chwaer agosaf iddi o ran oedran oedd Irene a oedd flwyddyn yn iau.[1]
Addysgwyd Johnson yn Ysgol Uwchradd Ddinesig Boulevard ( Ysgol Uwchradd Kingston yn ddiweddarach) a Phrifysgol Sheffield, lle graddiodd gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn economeg. Bu'n gweithio wedyn yn Llundain fel ysgrifennydd i'r cyfreithiwr William Charles Crocker. Dechreuodd hedfan fel hobi, gan ennill tystysgrif awyrenwyr, Rhif 8662, ar 28 Ionawr 1929, a thrwydded peilot "A", Rhif 1979, ar 6 Gorffennaf 1929. Llwyddodd i wneud hynny dan ofal y Capten Valentine Baker yng Nghlwb Awyrennau Llundain. Yn yr un flwyddyn, hi oedd y fenyw Brydeinig gyntaf i ennill trwydded "C" peiriannydd llawr.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd Johnson yn ffrind ac yn gydweithiwr i Fred Slingsby. Ei gwmni ef, sef Slingsby Aviation o Kirbymoorside, Gogledd Swydd Efrog, oedd cwmni gleiderau enwocaf y DU. Cyfrannodd Slingsby at sefydlu Clwb Gleidio Swydd Efrog yn Sutton Bank ac roedd Amy Johnson yn aelod yno yn ystod y 1930au, a chafodd ei hyfforddi yno.[3][4]
Cafodd Johnson yr arian ar gyfer ei hawyren gyntaf gan ei thad, a oedd bob amser yn un o'i chefnogwyr mwyaf, a'r Arglwydd Wakefield .[5] Prynodd hi de Havilland DH.60 Gipsy Moth G-AAAH ail-law a'i enwi'n Jason ar ôl nod masnach busnes ei thad.[6] [Note 1]
Hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia a gwnaeth hynny yn 1930. Cafodd Johnson gydnabyddiaeth fyd-eang pan wnaeth hynny. Gadawodd Maes Awyr Croydon, Surrey yn yr awyren G-AAAH Jason ar 5 Mai a glaniodd yn Darwin, Tiriogaeth y Gogledd ar 24 Mai, sef taith o 11,000 o filltiroedd (18,000 km).[7] Chwe diwrnod yn ddiweddarach, difrodwyd ei hawyren oherwydd gwynt cryf wrth lanio ym maes awyr Brisbane. Hedfanodd i Sydney gyda'r Capten Frank Follett tra yr oedd ei hawyren yn cael ei thrwsio. Yn ddiweddarach hedfanwyd Jason i Mascot, Sydney, gan y Capten Lester Brain .[8] Mae Jason bellach mewn arddangosfa barhaol yn Oriel Hedfan yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain .
I gydnabod y gamp hon, derbyniodd Amy Johnson Dlws Harmon yn ogystal â CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd George V yn 1930. Cafodd ei hanrhydeddu hefyd â thrwydded peilot sifil Rhif 1 yn ôl Rheoliadau Mordwyo Awyr Awstralia 1921.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Amy Johnson pioneering aviator" (PDF). Hull Local Studies Library, Hull City Council. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2006-05-19. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
- ↑ Aitken, Kenneth (Gorffennaf 1991). "Amy Johnson (The Speed Seekers)." Aeroplane Monthly, Vol. 19, no. 7, Issue no. 219. p. 440.
- ↑ "Amy's Yorkshire Flying Club". Amy Johnson Arts Trust. Cyrchwyd 24 Awst 2019.
- ↑ "Amy's Yorkshire Flying Club". Yorkshire Post. Cyrchwyd 24 Awst 2019.
- ↑ Dunmore, Spencer (2004). "Undaunted: Long-Distance Flyers in the Golden Age of Aviation" Toronto: McClelland & Stewart. ISBN 0771029373. pp. 194–195.
- ↑ Eden, P. E. Civil Aircraft 1907–Present 2012 p. 46 colour drawing ISBN 9781908696649
- ↑ Marshall, A. C., gol. (1934). Newnes Golden Treasury. George Newnes Ltd. t. 488 (photo plate opposite).
- ↑ "Miss Amy Johnson". The Canberra Times. 4 (813). Australian Capital Territory, Australia. 30 Mai 1930. t. 1. Cyrchwyd 24 Mai 2018 – drwy National Library of Australia.
- ↑ "Brearley Pilot's Licences". Treasures of the Battye Library. State Library of Western Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2009. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2007.