Aber Tafwys
Gwedd
| Math | aber |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Caint, Essex |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Môr y Gogledd |
| Cyfesurynnau | 51.5°N 0.6°E |
| Llednentydd | Afon Tafwys |
![]() | |
Y corff o ddŵr lle mae Afon Tafwys yn ehangu wrth iddi gyrraedd Môr y Gogledd yw Aber Tafwys (Saesneg: Thames Estuary).
Mae'n llwybr môr pwysig: bob blwyddyn mae miloedd o danceri olew, llongau cynwysyddion, swmpgludwyr (bulk-carriers) a fferïau yn mynd i mewn i'r aber er mwyn glanio ym Mhorthladd Llundain a Phorthladdoedd Medway – Sheerness, Chatham a Thamesport Llundain.
Lleolir un o'r ffermydd gwynt mwyaf yn y Deyrnas Unedig yn yr aber 8.5 km i'r gogledd o Herne Bay, Caint.
