Amoniwm clorid

Oddi ar Wicipedia
Amoniwm clorid
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathclorid Edit this on Wikidata
Màs53.003227 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolClh₄n edit this on wikidata
Yn cynnwysnitrogen, hydrogen, clorin Edit this on Wikidata
GwneuthurwrPfizer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amoniwm clorid
dde

Yn ei ffurf buraf, halwyn o grisialau gwynion ydy Amoniwm clorid (NH4Cl) (hefyd: Sal Amoniac, salmiac, sal armagnac neu sal armoniac). Gall hydoddi'n hawdd mewn dŵr ac mae'n asid gwan. Gellir ei gloddio fel mwyn o'r ddaear a gelwir y mwyn hwn yn "sal amoniac". Gall hefyd ffurfio pan losgir tomenni glo drwy gyddwyso o nwyon y glo; fe wnâ hyn hefyd ar losgfynyddoedd.

Ei greu mewn diwydiant[golygu | golygu cod]

Gellir ei gynhyrchu (ar ffurf isgynnyrch) mewn labordy yn y broses o greu sodiwm carbonad.[1]

Caiff ei gynhyrchu mewn diwydiant drwy greu adwaith cemegol rhwng amonia (NH3) a hydrogen clorid (HCl). Gan fod y ddau gemegolyn hyn yn gyrydol (Sa: corrosive) mae'r broses hon yn cael ei wneud mewn cynhwysyn enfawr wedi'i leinio gyda defnydd sydd ddim yn cyrydu ee gwydr, enamel, plwm neu upvc.[1]

NH3 + HCl → NH4Cl

Gall yr adwaith hwn hefyd ddigwydd yn y cartref neu'r labordy pan gedwir dwy botel o'r cemegolion amonia (neu amoniwm hydrocsid) ac asid hydroclorig ochr yn ochr, a'r rheiny heb eu selio'n iawn. Bydd grisialau'n ffurfio o amgylch yr agoriadau di-sel.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Egon Wiberg, Arnold Frederick Holleman (2001) Inorganic Chemistry, Elsevier ISBN 0123526515

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]