Alva Belmont

Oddi ar Wicipedia
Alva Belmont
GanwydAlva Erskine Smith Edit this on Wikidata
17 Ionawr 1853 Edit this on Wikidata
Mobile, Alabama Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 1933 Edit this on Wikidata
Augerville-la-Rivière, Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethcymdeithaswr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, noddwr y celfyddydau, gweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMarble House Edit this on Wikidata
TadMurray Forbes Smith Edit this on Wikidata
MamPhoebe Desha Edit this on Wikidata
PriodWilliam Kissam Vanderbilt I, Oliver Belmont Edit this on Wikidata
PlantWilliam Kissam Vanderbilt II, Harold Stirling Vanderbilt, Consuelo Vanderbilt Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Alva Belmont, (17 Ionawr 1853 - 26 Ionawr 1933) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cymdeithaswr a swffragét. Rhwng 1875 i 1896, fe'i hadwaenid fel Alva Vanderbilt. Roedd yn filiwnydd ac yn ffigwr mawr yn yr ymgyrch i gael pleidleis i ferched America, sef yr hyn a elwir yn "etholfraint". Ar 12 Ebrill 2016 fe'i anrhydeddwyd gan yr Arlywydd Barack Obama a chodwyd cofeb Belmont-Paul Women's Equality National Monument yn Washington, D.C.[1][2][3][4][5][6][7][8]

I rai pobl, roedd ei hagwedd aristocrataidd yn groes i'r graen. Ond beth bynnag eu barn, roedd ganddi egni eithriadol, deallusrwydd, barn bendant a'r hyder i herio'r drefn.[9][10]

Yn 1909, sefydlodd y Gynghrair Cydraddoldeb Gwleidyddol (Political Equality League) i annog etholwyr i bleidleisio i'r rhai hynny a oedd o blaid etholfraint, yr hawl i fenywod bleidleisio. Ysgrifennai lythyrau i'r papurau ac ymunodd â Chymdeithas Menywod Menywod Cenedlaethol America, sef NAWSA (National American Woman Suffrage Association (NAWSA)). Yn ddiweddarach ffurfiodd ei Chynghrair Cydraddoldeb Gwleidyddol ei hun (Political Equality League) yn Ninas Efrog Newydd, i ymgyrchu dros etholfraint yn Efrog Newydd, ac fel ei llywydd, arweiniodd y New York City's 1912 Women's Votes Parade.

Yn 1916, roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol y Menywod a threfnodd y piced, neu'r brotest gyntaf erioed gan fenywod, a hynny o flaen y Tŷ Gwyn, yn Ionawr 1917. Fe'i hetholwyd yn Llywydd Plaid Genedlaethol y Menywod, swydd a gyflawnodd hyd at ei marwolaeth.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Picedu o flaen y Tŷ Gwyn yn Ionawr 1917.

Ganed Alva Erskine Smith yn 201 Government Street, Mobile, Alabama ar 17 Ionawr 1853; bu farw yn Augerville-la-Rivière, Loiret, ffrainc ac fe'i claddwyd ym Mynwent Woodlawn.

Ei rhieni oedd: Murray Forbes Smith, marchnatwr, a Phoebe Ann Desha. Roedd Murray Smith yn fab i George Smith a Delia Forbes of Dumfries, Virginia ac roedd Phoebe Desha yn ferch i'r Cynrychiolydd US (Representative) Robert Desha ac Eleanor Shelby, o Sumner County, Tennessee.

Priododd ddwywaith, yn gyntaf i William Kissam Vanderbilt, a chawsant dri o blant, ac yn ail i Oliver Hazard Perry Belmont. Roedd y ddau'n filiwnyddion ac yn aelodau blaenllaw o'r gymdeithas.[11][12][12][13][14]

Mae Alva'n adnabyddus hefyd am ei hadeiladau, gan gynnwys y Petit Chateau yn Ninas Efrog Newydd, the Marble House yn Newport, Rhode Island, the Belmont House, Efrog Newydd; Brookholt ar Long Island; a Beacon Towers yn Sands Point, Efrog Newydd.

Roedd William Kissam Vanderbilt II, Harold Stirling Vanderbilt a Consuelo Vanderbilt yn blant iddi. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig a ysgrifennodd y mae: Marble House.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas America dros yr Hawl i Ferched Bleidleisio am rai blynyddoedd. [15][16]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Presidential Proclamation -- Establishment of the Belmont-Paul Women's Equality National Monument)". "archives.gov". Cyrchwyd 2016-04-12.
  2. Rhyw: https://research.frick.org/directory/detail/2610.
  3. Dyddiad geni: "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Stirling Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Smith". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". ffeil awdurdod y BnF.
  4. Dyddiad marw: "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Stirling Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Smith". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". ffeil awdurdod y BnF.
  5. Man claddu: https://fr.findagrave.com/memorial/3711/alva-erskine_stirling-belmont. dyddiad cyrchiad: 20 Rhagfyr 2023.
  6. Enw genedigol: https://www.britannica.com/biography/Alva-Belmont. Encyclopædia Britannica. dyddiad cyrchiad: 17 Rhagfyr 2023.
  7. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  8. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  9. "Alva (Erskine Smith Vanderbilt) Belmont". "biography.com". Cyrchwyd 2007-01-03.
  10. Viens, Katheryn. "Belmont, Alva Erskine Smith Vanderbilt". "American National Biography Online". Cyrchwyd 2008-01-03.
  11. Patterson, Jerry E. The Vanderbilts., tudalennau 120–121. New York: H.N. Abrams, 1989.
  12. 12.0 12.1 Lundy, Darryl. "A genealogical survey of the peerage of Britain as well as the royal families of Europe: Murray Forbes Smith". "The Peerage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 2007-12-09. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  13. "Society at Home and Abroad" (PDF). New York Times. October 28, 1906. Cyrchwyd 17 Chwefror 2012.
  14. "Married Very Quietly" (PDF). New York Times. July 22, 1888. Cyrchwyd 17 Chwefror 2012.
  15. Man gwaith: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 29 Ionawr 2023.
  16. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 19 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 19 Rhagfyr 2022.