Alun Guy

Oddi ar Wicipedia
Alun Guy
Ganwyd1939 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cerddor Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Cerddor, athro ac awdur Cymreig yw Alun Guy (ganwyd 1939). Mae'n nodedig am gyhoeddi 15 o wahanol gyfrolau megis Cantorion o Fri: Ar Lwyfan Cymru a gyhoeddwyd 1 Awst 2004 gan Wasg Gomer ynghyd a nifer o werslyfrau ar gyfer disgyblion TGAU a Safon A Cerddoriaeth. [1] Mae e'n cerddor hefyd, sy'n gweithio fel Beirniad Cerdd Cenedlaethol, arweinydd Cymanfaoedd Rhyngwladol, corau a cherddorfeydd.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Guy yng Nghaerdydd. Mae'n un o dri o blant i Mr D T Guy (Penclawdd) a Mrs Annie Hughes Guy (Waunarlwydd).

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Graddiodd Guy o Goleg Prifysgol Caerdydd. Rhwng 1978 a 1998 bu'n Bennaeth Cerdd Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd. Mae nawr yn Ymgynghorydd Cerdd ar gyfer ysgolion yn ogystal â Phrif Arholwr Cerdd TGAU yng Nghymru.[2]

Derbyniodd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei wasanaeth i'r meysydd cerdd, iaith a diwylliant.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
  2.  Mae Alun Guy yn gwneud y trydydd, gan gwblhau panel eleni… (12 Hydref 2012). Adalwyd ar 18 Mai 2016.
  3. Anrhydeddau'r Frenhines am ymdrechion i atal Covid , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2020.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.