Alun Wyn Bevan
Gwedd
Alun Wyn Bevan | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1947 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, darlledwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Cewri Campau Cymru |
Darlledwr, sylwebydd rygbi a chyn-ddyfarnwr rygbi Cymreig yw Alun Wyn Bevan (ganwyd Hydref 1947). Bu'n gweithio ym maes addysg ers 20 mlynedd ac erbyn hyn mae'n ymchwilydd a chynhyrchydd i gwmni teledu Tinopolis yn Llanelli. Mae'n wreiddiol o Brynaman, ond nawr yn byw yng Nghastell-Nedd.
Mae Bevan wedi ymwneud â sawl cynllun i bobl ifanc yn hyrwyddo'r Gymraeg mewn chwaraeon a gwella iechyd plant yn Rhondda Cynon Taf.[1]
Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am chwaraeon yn Gymraeg a Saesneg.
Ers 2014, mae wedi bod yn rhan o dîm sylwebu rhaglen Seiclo S4C, sy'n darlledu uchafbwyntiau o rasus "Giro d'Italia" a'r "Tour de France".[2][3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cewri Campau Cymru (Gwasg Gomer, 2000)
- Welsh Sporting Greats (Gwasg Gomer, 2001)
- Straeon o'r Strade (Gwasg Gomer, 2004)
- Stradey Stories (Gwasg Gomer, 2005)
- St. Helen’s Stories (Gwasg Gomer, 2007)
- Clawdd Offa/Offa’s Dyke (Gwasg Gomer, 2009)
- Rugby's Best of the Best (Gwasg Gomer, 2009)
- Leaders of Men (Gwasg Gomer, 2010)
- A Wyddoch Chi am Chwaraeon Cymru? (Gwasg Gomer, 2013)
- Dathlu Rygbi Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
- Y Gêmau Olympaidd a Champau'r Cymry (Gwasg Gomer, 2012)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cronfa Ddata Awduron Cymru - Alun Wyn Bevan. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 7 Mehefin 2016.
- ↑ S4C wins rights to broadcast Tour de France , walesonline.co.uk, 26 Mehefin 2014. Cyrchwyd ar 3 Gorffennaf 2022.
- ↑ Giro d'Italia 2020 ar S4C. S4C (23 Medi 2020). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2022.