Alun Wyn Bevan

Oddi ar Wicipedia
Alun Wyn Bevan
GanwydHydref 1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, darlledwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amCewri Campau Cymru Edit this on Wikidata

Darlledwr, sylwebydd rygbi a chyn-ddyfarnwr rygbi Cymreig yw Alun Wyn Bevan (ganwyd Hydref 1947). Bu'n gweithio ym maes addysg ers 20 mlynedd ac erbyn hyn mae'n ymchwilydd a chynhyrchydd i gwmni teledu Tinopolis yn Llanelli. Mae'n wreiddiol o Brynaman, ond nawr yn byw yng Nghastell-Nedd.

Mae Bevan wedi ymwneud â sawl cynllun i bobl ifanc yn hyrwyddo'r Gymraeg mewn chwaraeon a gwella iechyd plant yn Rhondda Cynon Taf.[1]

Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am chwaraeon yn Gymraeg a Saesneg.

Pac o Straeon Rygbi 2

Ers 2014, mae wedi bod yn rhan o dîm sylwebu rhaglen Seiclo S4C, sy'n darlledu uchafbwyntiau o rasus "Giro d'Italia" a'r "Tour de France".[2][3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cronfa Ddata Awduron Cymru - Alun Wyn Bevan. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 7 Mehefin 2016.
  2. S4C wins rights to broadcast Tour de France , walesonline.co.uk, 26 Mehefin 2014. Cyrchwyd ar 3 Gorffennaf 2022.
  3.  ​Giro d'Italia 2020 ar S4C. S4C (23 Medi 2020). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2022.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.