Allan o'r Cysgodion

Oddi ar Wicipedia
Allan o'r Cysgodion
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJulian Lewis Jones ac Alun Gibbard
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi23/07/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847717269
GenreCofiannau Cymraeg

Hunangofiant Julian Lewis Jones ganddo ef ei hun ac Alun Gibbard yw Allan o'r Cysgodion a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Cofiant Julian Lewis Jones, yr actor a'r cyflwynydd teledu. Mae wedi gwneud enw iddo'i hun fel actor yn Hollywood mewn ffilmiau fel Invictus gyda'r cyfarwyddwr Clint Eastwood, a Zero Dark Thirty, ffilm Kathryn Bigelow. Mae’n gymeriad adnabyddus yn Stella, cyfres gomedi Ruth Jones ar Sky 1 a chyfresi Cymraeg a Phrydeinig fel Caerdydd a Where the Heart Is. Mae’n gyflwynydd y rhaglen ’Sgota ar S4C.

Actor a chyflwynydd o Ynys Môn yn wreiddiol.

Y gyfrol[golygu | golygu cod]

Yn y gyfrol mae Julian Lewis Jones yn siarad am y rhwystredigaethau mae wedi eu canfod ar hyd ei fywyd a’i yrfa actio. Mae ei yrfa wedi blodeuo eleni ac mae wedi cael y cyfle i weithio gyda mawrion y byd ffilm yn America. Mae’n gyflwynydd ei raglen ei hun ar S4C ac yn wyneb cyfarwydd i ffans y comedi Stella – prosiect mawr cyntaf Ruth Jones ar ôl Gavin & Stacey.

Mae’n siarad yn onest am y salwch fel plentyn (asthma) oedd yn golygu iddo golli llawer o’r ysgol a wynebu unigedd ac anallu i ymuno mewn gemau gyda’i gyfoedion fel bachgen ifanc.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]