Alice Salomon

Oddi ar Wicipedia
Alice Salomon
Ganwyd19 Ebrill 1872 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw30 Awst 1948 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwygiwr cymdeithasol, academydd, ysgrifennwr, social pedagogue, ymgyrchydd dros hawliau merched, economegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Alice Salomon University
  • Girls and Women Groups for Social Work Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures o'r Almaen ac Unol Daleithiau America oedd Alice Salomon (19 Ebrill 1872 - 30 Awst 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel diwygiwr cymdeithasol, academydd yn ogystal ag fel awdur.[1][2][3][4][5]

Fe'i ganed yn Berlin, yr Almaen a bu farw yn Ninas Efrog Newydd, Unol Daleithiau'r America. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Humboldt, Berlin.

Roedd ei rôl o fewn y sector gwaith cymdeithasol yr Almaen mor bwysig, cynhyrchwyd stamp post gyda'i llun arni yn 1989 gan Deutsche Bundespost i'w choffáu. Mae prifysgol, parc a sgwâr yn Berlin hefyd wedi'u henwi ar ei hôl.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Alice Salomon oedd y trydydd o wyth o blant, ac ail ferch Albert ac Anna Salomon. Fel llawer o ferched o deuluoedd cefnog yn y cyfnod hwn, gwrthodwyd addysg bellach iddi, er gwaethaf ei huchelgais i fod yn athrawes. Daeth hyn i ben ym 1893 pan oedd yn 21, a chofnododd yn ei hunangofiant mai "dyma oedd dechrau bywyd" iddi.

Ym 1900 ymunodd â'r Bund Deutscher Frauenvereine ("Ffederasiwn Cymdeithasau Menywod yr Almaen" - BDF). Cyn hir, cafodd ei hethol yn ddirprwy gadeirydd, a chadwodd y rôl hon tan 1920; y Cadeirydd oedd Gertrud Bäumer. Roedd y sefydliad yn cefnogi mamau anghenus, gwrthodedig neu famau sengl a cheisiodd atal eu plant rhag cael eu hesgeuluso.

Coleg[golygu | golygu cod]

Rhwng 1902 a 1906 astudiodd economeg ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm yn Berlin, er nad oedd ganddi unrhyw gymhwyster perthnasol. Roedd ei chyhoeddiadau yn ddigonol ar gyfer mynediad i'r brifysgol. Enillodd ei doethuriaeth ym 1908 gyda thraethawd hir o'r enw Die Ursachen der ungleichen Entlohnung von Männer- und Frauenarbeit (yn fras, “Anghydraddoldebau Cyflog rhwng Dynion a Menywod”). Hefyd yn y flwyddyn hon sefydlodd Soziale Frauenschule ("Ysgol y Merched Cymdeithasol") yn Berlin, a gafodd ei hailenwi'n "Ysgol Alice Salomon" yn 1932 ac mae bellach yn cael ei galw'n Alice-Salomon-Fachhochschule für Sozialarbeit und Sozialpädagogik Berlin ("Coleg Pellach Alice Salomon dros Addysg Gwaith Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Berlin").[6]

Yn 1909 daeth yn ysgrifennydd yr Internationalen Frauenbund (Cyngor Rhyngwladol Menywod). Trodd o Iddewiaeth i'r Eglwys Lutheraidd ym 1914. Yn 1917 cafodd ei gwneud yn gadeirydd y Konzrenz sozialer Frauenschulen Deutschlands ("Cynhadledd Ysgolion Cymdeithasol Menywod yr Almaen") yr oedd hi ei hun wedi'i sefydlu; erbyn 1919 roedd un ar bymtheg o ysgolion o dan adain y Gynhadledd.

Ei herlun gan y Natsïaid[golygu | golygu cod]

Yn 1933 daeth y Natsïaidd i rym a'i diswyddo o bopeth; chwe blynedd yn ddiweddarach, pan oedd yn 65 oed, cafodd ei holi gan y Gestapo. Roedd y Natsïaid yn gwrthwynebu tras Iddewig Salomon, ei syniadau dyneiddiol Cristnogol, ei heddychiaeth a'i henw da rhyngwladol. Cafodd ei diarddel o'r Almaen, lle bu'n rhedeg pwyllgor cynorthwyo ymfudwyr Iddewig.

Aeth i Efrog Newydd gan i'w dinasyddiaeth Almaenig a'i dwy ddoethuriaeth academaidd gael eu cymryd oddi wrthi gan y Natsïaid. Yn 1944 daeth yn ddinesydd o UDA. Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn Llywydd anrhydeddus Ffederasiwn Rhyngwladol y Menywod a Chymdeithas Ryngwladol Ysgolion Gwaith Cymdeithasol.

Gweithiau dethol[golygu | golygu cod]

  • Handbuch der Frauenbewegung., 1901.
  • Soziale Frauenpflichten. 1902.
  • Die Ursachen der ungleichen Entlohnung von Männer- und Frauenarbeit. Leipzig 1906 (Dissertation an der Philosophischen Fakultät der Friedrich-Wilhelms-Universität Berlin, 1906)
  • Soziale Frauenbildung. Berlin 1908.
  • Mutterschutz und Mutterschaftsversicherung. 1908.
  • Einführung in die Wirtschaftslehre. 1909 (1923).
  • Was wir uns und anderen schuldig sind. Ansprachen und Aufsätze für junge Mädchen. Leipzig/Berlin 1912.
  • Zwanzig Jahre soziale Hilfsarbeit. Karlsruhe 1913.
  • Geschichte der sozialen Frauenarbeit. 1913.
  • Darstellung der Arbeiterinnenbewegung in Deutschland. 1913.
  • Einführung in die Volkswirtschaftslehre. 1919.
  • Leitfaden der Wohlfahrtspflege. Leipzig 1921.
  • Die deutsche Volksgemeinschaft. 1922.
  • Ausbildung zum sozialen Beruf. 1924.
  • Kultur im Werden. Amerikanische Reiseeindrücke. 1924.
  • Furcht und Nervosität im Beruf. Kongreß für Betriebswohlfahrt. 1925.[7]
  • Soziale Diagnose. Berlin 1926.
  • Soziale Therapie. 1926.
  • Die Ausbildung zum sozialen Beruf. Berlin 1927.
  • Jugend- und Arbeitserinnerungen. Yn: Elga Kern (Hrsg.): Führende Frauen Europas. München 1928, S. 3–34.
  • Forschungen über Bestand und Erschütterung des Familienlebens in der Gegenwart. 1930–1932 (elf Bände).
  • Soziale Führer. Ihr Leben, ihre Lehren, ihre Werke. Leipzig 1932.
  • Heroische Frauen. Zürich 1936.
  • Education for social work. 1937.
  • Charakter ist Schicksal, Lebenserinnerungen. Herausgegeben von Rüdiger Baron a Rolf Landwehr. Beltz Verlag, Weinheim/Basel 1983, ISBN 3-407-85036-0 (Auszug in: Lixl-Purcell (Hg): Erinnerungen deutsch-jüdischer Frauen 1900–1990. Ailargraffiad, Leipzig 1992, ISBN 3-379-01423-0, S. 120–125).
  • Lebenserinnerungen. Jugendjahre, Sozialreform, Frauenbewegung, Exil. Herausgegeben von der Alice Salomon Hochschule Berlin. 2008, ISBN 978-3-86099-119-0.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127704633. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Alice Salomon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Salomon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Salomon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Salomon".
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Alice Salomon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Salomon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Salomon". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Salomon".
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  6. 100 Jahrfeier
  7. Alice Salomon: Bericht über den Kongress für Betriebswohlfahrt in Blissingen/Holland. Archifwyd 2017-01-16 yn y Peiriant Wayback. In: Vossische Zeitung, 2 Gorffennaf 1925.