Neidio i'r cynnwys

Alffa

Oddi ar Wicipedia

Mae Alffa yn ddeuawd cerddorol o Gymru a sylfaenwyd gan y gitarydd Dion Jones a'r drymiwr Sïon Land. Arwyddwyd y band gan Recordiau Cosh, label y canwr Yws Gwynedd. Mae cerddoriaeth Alffa wedi cael ei chwarae mewn gwledydd fel De America a Brasil.

Cafodd Dion Jones a Sïon Land eu haddysg yn Ysgol Brynrefail yn Llanrug, tu allan i Gaernarfon. Astudiodd y ddau gerddoriaeth yn yr ysgol a cychwynnodd Alffa yn chwarae yn lleol. Daethant yn boblogaidd ar ôl iddynt adael yr ysgol yn 18 mlwydd oed.

Y gân gyntaf a gyhoeddwyd oedd Mwgwd yn 2017. Yn 2018 cyhoeddodd Alffa’r gân Gwenwyn. Cafodd y gân yma ei chwarae 1 miliwn o weithiau ar Spotify a dyma’r gân gyntaf yn Gymraeg i wneud hyn, erbyn heddiw mae'r gan wedi cael ei chwarae 2 miliwn o weithiau. Cafodd y can yma ei chwarae dros y byd fel llefydd fel De America.

PYST yw grŵp sy’n hybu cerddoriaeth Cymraeg ar-lein yn rhyngwladol. Alun Llwyd cychwynnodd PYST flwyddyn yn ôl. Dechreuodd PYST hybu cerddoriaeth Alffa yng Nghymru ac mewn llefydd fel De America. Mae Pyst yn rhan o’r syniad i cael 1 miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn 2050.

Brwydr y Bandiau

[golygu | golygu cod]

Ar y 9 Awst 2017 enillodd Alffa gystadleuaeth "Frwydr y Bandiau". Roedd chwe band neu artist yn cystadlu i ennill. Enillodd Alffa £1,000, a noddwyd gan Land Lakes. Hefyd enillon nhw y cyfle i chwarae ym Maes B, chael erthygl yng nghylchgrawn Y Selar a sesiwn hefo ffotograffydd.

Caneuon

[golygu | golygu cod]
  • "Mwgwd" (2017)
  • "Rhydd" (2017)
  • "Tomos Rhys" (2018)
  • "13.11.15" (2018)
  • "Creadur" (2018)
  • "Gwenwyn" (2018)
  • "Pla" (2019)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]