Neidio i'r cynnwys

Alex Garland

Oddi ar Wicipedia
Alex Garland
GanwydAlexander Medawar Garland Edit this on Wikidata
26 Mai 1970 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, sgriptiwr, nofelydd, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr ffilm, awdur teledu, cyfarwyddwr teledu Edit this on Wikidata
TadNicholas Garland Edit this on Wikidata
MamCaroline Medawar Garland Edit this on Wikidata
PriodPaloma Baeza Edit this on Wikidata

Mae Alex Garland (ganed 1970) yn nofelydd ac yn sgriptiwr Prydeinig.

Mae'n fab i'r cartŵnydd gwleidyddol Nick (Nicholas) Garland. Mynychodd yr ysgol annibynnol University College School, yn Hampstead, Llundain, cyn mynd i Brifysgol Manceinion i astudio hanes celf.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf The Beach, a soniai am ei brofiadau tra'n teithio ym 1996. Daeth y nofel hwn yn glasur cwlt a chafodd ei wneud yn ffilm gan y cyfarwyddwr Danny Boyle. Serennodd Leonardo DiCaprio yn y ffilm.

Cyhoeddwyd ail nofel Garland The Tesseract ym 1998. Cafodd y nofel hon ei throsi'n ffilm yn serennu Jonathan Rhys Meyers. Yn 2003, ysgrifennodd y sgript ar gyfer ffilm Danny Boyle 28 Days Later. Cafodd ei drydedd nofel, The Coma ei chyhoeddi yn 2004.

Yn 2007, ysgrifennodd Garland y sgript ar gyfer y ffilm Sunshine - ei ail sgript i gael ei chyfarwyddo gan Danny Boyle ac i serennu Cillian Murphy fel y prif gymeriad. Gweithiodd Garland fel uwch-gynhyrchydd 28 Weeks Later, sef y dilyniant i 28 Days Later.

Ei bartner yw'r actores / cyfarwyddwr Paloma Baeza.

Gwobrau ac enwebiadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]