Sunshine (ffilm 2007)
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Danny Boyle |
| Cynhyrchydd | Andrew Macdonald |
| Ysgrifennwr | Alex Garland |
| Serennu | Cillian Murphy Rose Byrne Cliff Curtis Chris Evans Troy Garity Hiroyuki Sanada Benedict Wong Michelle Yeoh |
| Cerddoriaeth | John Murphy Underworld |
| Sinematograffeg | Alwin H. Kuchler |
| Golygydd | Chris Gill |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Fox Searchlight Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | DU 6 Ebrill, 2007 UDA 20 Gorffennaf, 2007 |
| Amser rhedeg | 107 munud |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Sunshine yn ffilm wyddonias Brydeinig a gyfarwyddwyd gan Danny Boyle ac a ysgrifennwyd gan Alex Garland. Sonia'r ffilm am griw llong ofod wrth iddynt fynd ar daith beryglus tua'r haul yn y flwyddyn 2057. Mae'r ddaear mewn perygl wrth i'r haul losgi ei hun yn ddim ac felly danfonir y criw er mwyn ail-gynnau'r haul gan ddefnyddio dyfais niwclear enfawr. Mae cast y ffilm yn cynnwys Cillian Murphy, Rose Byrne, Cliff Curtis, Chris Evans, Troy Garity, Hiroyuki Sanada, Benedict Wong a Michelle Yeoh.
Boyle, sy'n fwyaf adnabyddus am ffilmiau megis Trainspotting a 28 Days Later gyfarwyddodd y ffilm. Dewisodd y cyfarwyddwr gast o actorion rhyngwladol ar gyfer y ffilm a bu'r actorion yn cyd-fyw â'i gilydd ac yn dysgu am bynciau a oedd yn ymwneud â'u rôlau, fel modd o actio dull. Er mwyn i'r actorion ymateb yn realistig i'r effeithiau gweledol a fyddai'n cael eu hychwanegu ar ôl y broses gynhyrchu, crëodd y gwneuthurwyr ffilm setiau y byddai'r actorion yn ymateb iddynt.
