Alcuin
Alcuin | |
---|---|
Alcuin (canol), gyda Rabanus Maurus (chwith), yn cysegru ei waith i'r Archesgob Odgar o Mainz (dde): Llawysgrif Carolingaidd, c. 831 | |
Ganwyd | c. 740 Efrog, Northumbria |
Bu farw | 19 Mai 804 Tours |
Dinasyddiaeth | Northumbria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, bardd, llenor, athronydd, offeiriad Catholig |
Swydd | abad, abbot of Flavigny Abbey |
Adnabyddus am | De dialectica, Propositiones ad Acuendos Juvenes, Alcuin's sequence, Quaestiones in Genesim |
Dydd gŵyl | 19 Mai |
Bardd, ysgolhaig a diwinydd o Northumbria oedd Alcuin neu Alcwin[1] (tua 735 – 19 Mai 804).[2] Ysgrifennodd mewn Lladin. Roedd yn ysgolhaig ac athro blaenllaw yn llys Siarlymaen, ac yn un o lunwyr pwysicaf y Dadeni Carolingaidd.
Fe'i ganwyd yng Nghaerefrog[2] ac astuduodd yn y gadeirlan yno dan arweiniad yr archesgob, Ecbert o Efrog.[3] Aeth ymlaen i fod yn athro yn yr ysgol yno, a daeth yn bennaeth arni tua 767. Yn 781 fe'i hanfonodd gan y Brenin Ælfwald i Rufain i wneud cais i'r Pab am gadarnhau statws Efrog fel archesgobaeth. Ar ei ffordd adref cyfarfyddodd â Siarlymaen, brenin y Ffranciaid yn ninas Parma. Perswadiodd Siarlymaen ef i ymuno â grŵp o ysgolheigion disglair yn ei lys yn Aachen. Daeth Alcuin yn feistr ar ysgol y palas yn 782, a dysgodd nid yn unig meibion y brenin ond y brenin ei hun. Daeth yn gyfaill ac yn gynghorydd i Siarlymaen.
Dychwelodd Alcuin i Northumbria yn 1790, ond roedd yn ôl yn Aachen erbyn 1792. Yn 796 daeth yn abad Abaty Marmoutier yn Tours, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhai Sylwadau ar 'The Story of Popular Education by the Rev. G. Howard James of Derby.' -|1909-12-03|Y Llan - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-16.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Joanna Story (4 June 2005). Charlemagne: Empire and Society (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 142. ISBN 978-0-7190-7089-1.
- ↑ Geoffrey Grimshaw Willis (1964). Further Essays in Early Roman Liturgy (yn Saesneg). S.P.C.K. t. 206.