Albwm sticeri

Oddi ar Wicipedia
Albwm sticeri
Mathalbwm, cylchgrawn Edit this on Wikidata
Albwm sticeri Cwpan y Byd Pêl-droed 2022, tudalen Cymru ar ei hanner
Albwm sticeri Cwpan y Byd Pêl-droed 2022

Mae albwm sticeri (gelwir hefyd yn llyfr sticeri) yn llyfr lle mae sticeri casgladwy yn cael eu rhoi mewn adrannau penodol. Gall thema albwm sticeri yn amrywio i gyrraedd cynulleidfa darged penodol, ond ceir yn aml albymau ar thema digwyddiadau chwaraeon fel Cwpan y Byd FIFA, Uwch Gynghrair Lloegr, neu yn fwy eang; rhaglenni teledu, ffilmiau, anifeiliaid, neu gerddoriaeth.

Panini oedd y cwmni cyntaf i lansio sticer pêl-droed casgladwy ym 1961, ond yn gweld llwyddiant mawr wrth gyhoeddi albwm Cwpan y Byd 1970. Mae'r cwmnïau Merlin Publishing a Topps hefyd yn adnabyddus am albymau sticeri masgynhyrchu ar thema pynciau gwahanol.

Heddiw, gall albymau sticeri pêl-droed gynnwys mwy na 650 o sticeri.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Fe lansiodd Panini yr albwm sticeri Cwpan y Byd cyntaf cyn y gystadleuaeth 1970 ym Mecsico.[2][3] Wedi hynny, daeth chwilfrydedd am gasglu a chyfnewid sticeri fel y noda The Guardian, “the tradition of swapping duplicate [World Cup] stickers was a playground fixture during the 1970s and 1980s.”[4] Gwerthwyd albwm sticeri Cwpan y Byd 1970 cyflawn a lofnodwyd gan Pelé am record o £10,450.[5]

Gwerthir y sticeri fel arfer mewn pecynnau dall, hynny yw, nid yw'r prynwr yn gwybod pa sticeri sydd ganddo cyn agor y pecyn. Wedyn, mae casglwyr yn cyfnewid neu'n gwerthu eu sticeri dyblyg gyda chasglwyr eraill.

Fel arfer, mae casglwyr yn mynd trwy sticeri pobl eraill yn eu dwylo, wrth eu trefnu mewn pentyrrau (sticeri sydd ei hangen, a'r rhai wedi'i gasglu eisoes). Mae'n adnabyddus i bobl weiddi "got" a "need" yn Saesneg wrth iddynt fynd trwy'r sticeri, ac roedd hyn arwain at greu'r slogan "got, got, need!" a ddefnyddir gan Panini a'r cyfryngau.[6]

Fformat[golygu | golygu cod]

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Pobl ym Mrasil yn casglu a chyfnewid sticeri Cwpan y Byd 2018

Mae albymau sticeri ar thema chwaraeon, fel yn achos rhifynnau Cwpan y Byd FIFA gan Panini, yn defnyddio tudalennau dynodedig am bob tîm ynghyd â phetryalau wedi'u rhifo am bob sticer penodol.[3][4] Ceir llun y chwaraewr ar bob sticer a manylion eraill fel yr enw, dyddiad geni, taldra, a safle chwarae. Yn ogystal â'r chwaraewyr, ceir hefyd sticeri 'aur' neu 'ddisglair' sy'n dangos arfbais y tîm ac enillwyr, a sticeri eraill sy'n dangos lluniau tîm a stadia.

Albwm sticeri digidol[golygu | golygu cod]

Ym Mai 2006, cynhyrchwyd yr albwm sticeri digidol cyntaf gan Panini mewn partneriaeth â The Coca-Cola Company a Tokenzone ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2006. [7] Ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2014, cymerodd tair miliwn o ddefnyddwyr FIFA.com ran yng nghystadleuaeth Panini Digital Sticker Album.[8] Fe lansiodd Panini ap ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2018 lle gallai cefnogwyr gasglu a chyfnewid sticeri digidol, gyda phum miliwn o bobl yn eu casglu.[9][7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Sticer tîm Lloegr yn cwblhau casgliad Ewros Connor Roberts". Golwg360. 6 Mehefin 2021. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  2. "Brand collaborations". FIFA.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2015. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  3. 3.0 3.1 "Panini World Cup 2018 stickers: When's the sticker album release date? And how much will it cost?". Evening Standard (yn Saesneg). 21 Mawrth 2018. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  4. 4.0 4.1 Belam, Martin (29 Mawrth 2018). "Cost to fill Panini World Cup sticker book is £773, says maths prof". The Guardian. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  5. Isaacs, Marc (27 Mawrth 2017). "The world's most expensive Panini album, signed by Brazilian legend Pele, has been auctioned off for £10,450". Irish Mirror. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  6. Gaskell, Simon (3 Rhagfyr 2015). "Got, got, need! Panini launches Wales Official Euro 2016 Campaign Sticker Collection of Gareth Bale and Co". WalesOnline. Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  7. 7.0 7.1 Smith, Elliott (18 Mehefin 2018). "12 Years Running: Panini's FIFA World Cup™ Digital Sticker Album is More Popular Than Ever" (yn Saesneg). The Coca-Cola Company. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-05. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2022.
  8. "Panini Digital Sticker Album launched for Russia 2018". FIFA.com (yn Saesneg). 20 Mawrth 2018. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2022.
  9. Echegaray, Luis Miguel; Carroll, Charlotte (6 Mehefin 2018). "The Magic, Global Craze and Tradition of Panini's World Cup Sticker Albums". Sports Illustrated (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Tachwedd 2022.