Ail Symudiad
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Daeth i ben | 2021 |
| Gwlad | |
| Label recordio | Fflach |
| Dechrau/Sefydlu | 1978 |
| Dynodwyr | |
Grŵp roc o Aberteifi oedd Ail Symudiad a ffurfiwyd ym 1978.[1][2]
Dylanwadwyd ar y band gan nifer o fandiau punk yr 1970au fel yr Undertones, Buzzcocks, The Clash a'r Sex Pistols. Roedd y Trwynau Coch hefyd yn ddylanwad arnynt a hefyd yn help iddynt ar y cychwyn.
Yr aelodau gwreiddiol oedd Richard Jones (gitâr a llais) ei frawd, Wyn Jones (bâs, llais cefndir) a Gareth Lewis (drymiau). Erbyn 1980 ymunodd aelod newydd, Robin Davies, ar y gitâr flaen.[3]
Yn 1981 penderfynodd y band sefydlu eu label annibynnol ei hun, sef Fflach. Record gyntaf y label oedd y sengl Twristiaid yn y Dre. Aeth fwy o amser a sylw Richard a Wyn ar ddatblygu eu label felly erbyn diwedd 1983 penderfynwyd dod â’r band i ben. Yn ddiweddarch, ailffurfiodd y band yn sgil y galw iddynt ddychwelyd i’r sîn roc a cyhoeddwyd sawl albwm pellach. Parhaodd y band i berfformio yn rheolaidd.
Bu farw Wyn Jones ym Mehefin 2021 ac yna'i frawd Richard Jones prin fis yn ddiweddarach, a daeth diwedd ar berfformiadau Ail Symudiad.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- ‘Ad-Drefnu’/‘Whisgi a Soda’ [sengl] (Sain 76S, 1980)
- Twristiaid yn y Dre [sengl] (Fflach 001, 1981)
- Geiriau [sengl] (Fflach 002, 1981)
- Garej Paradwys [sengl] (Fflach 003, 1981)
- Sefyll ar y Sgwâr (Sain 1240M, 1982)
- [gydag Angylion Stanli] ‘Edrych Trwy y Camerau’ [sengl] (Fflach 005, 1982)
- ‘Lleisiau o’r Gorffennol’ [sengl] (Fflach 005, 1982)
- ‘Bedlam’/‘Arwyr Addfwyn’ [sengl] (Sain 108S, 1984)
- [gyda Meic Stevens] ‘Croeso i Gymru’ [EP] (Fflach RFAS MEISYM, 1986)
- ‘O Bell ac Agos’ [sengl] (Fflach 020, 1986)
- 'Dawnsio Hyd Yr Oriau Mân' [EP] (Fflach 0029,1987)
- Rhy Fyr i Fod yn Joci (Fflach C059C, 1989)
- Ddy Mwfi (Semtexx, SXC 003G, 1993)
- 'Grwfi Grwfi' [sengl] (Fflach CD329F, 2010)
- Rifiera Gymreig (Fflach CD333N, 2011)
- 'Anturiaethau Y Renby Toads' [EP] (Fflach CD346J, 2012)
Casgliadau:
- Ail Symudiad [casgliad o’u senglau cynnar] (Low Down Kids LDK-LP2, 2002)
- Pippo Ar Baradwys - Casgliad 2 (Fflach CD300H, 2006)
- Anifeiliaid Ac Eraill (Fflach CD315N, 2008)
- Blas O Ail Symudiad (Fflach CD353, 2014)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Archif gwefan Ail Symudiad
- https://www.discogs.com/artist/1796675-Ail-Symudiad - Discograffi Ail Symudiad
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archif gwefan Ail Symudiad.
- ↑ "Fflach o'r Gorllewin". BBC Cymru Fyw. 2014-10-29. Cyrchwyd 2016-05-24.
- ↑ "Esboniadur - Ail Symudiad". Esboniadur, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 10 Medi 2021. Cyrchwyd 7 Awst 2025.