Richard Jones (cerddor)

Oddi ar Wicipedia
Richard Jones
GanwydRichard John Jones Edit this on Wikidata
4 Awst 1955 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farwGorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, cerddor, cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd o Gymro oedd Richard John Jones (4 Awst 195528 Gorffennaf 2021). Gyda'i frawd Wyn ffurfiodd y grŵp Ail Symudiad a chwmni recordiau Fflach yn Aberteifi.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Richard yn fab i Moelwyn a Betty Jones, yn frawd hŷn i Wyn (1959–2021). Fe'i magwyd yn Aberteifi.

Yn 1978, ar ddiwedd y cyfnod pync, ffurfiodd y band Ail Symudiad gyda'i frawd. Richard oedd prif leisydd a chyfansoddwr y band.

Yn 1981, sefydlodd Wyn a Richard label Fflach, a'u bwriad oedd recordio caneuon gan grwpiau newydd oedd yn datblygu yn y cyfnod - grwpiau fel Y Ficar ac Eryr Wen.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017, urddwyd Wyn a Richard gyda'r wisg werdd wrth eu derbyn i'r Orsedd.

Roedd yn briod ag Ann, ac roedd ganddynt ddau fab, Dafydd ac Osian. Daeth ei blant yn rhan o Ail Symudiad yn ddiweddarach, a rhyddhawyd Rifiera Gymreig yn 2010, albwm cyntaf y band ers 15 mlynedd.[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn 65 mlwydd oed, ychydig dros fis wedi marwolaeth ei frawd Wyn. Yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei deulu yr achos marwolaeth. Dywedon nhw ei fod wedi marw o gymlethdodau sydyn oherwydd canser yr afu heb ddiagnosis.[3] Cynhaliwyd ei angladd ar 14 Awst 2021.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Marw Richard Jones, Ail Symudiad: “Does dim modd siarad am un brawd heb y llall” , Golwg360, 29 Gorffennaf 2021.
  2. “Ail Symudiad” yn cael ail wynt , Golwg360, 25 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 29 Gorffennaf 2021.
  3. @AilSymudiadBand (9 Awst 2021). "Ypdêt ar Dad / Richard. Update on Dad / Richard" (Trydariad) – drwy Twitter.
  4. 'Richard Fflach' to take centre stage for one last time in Cardigan , Tivyside Advertiser, 5 Awst 2021. Cyrchwyd ar 14 Awst 2021.